Wrecsam 1–0 Southport
Daeth rhediad gwael Wrecsam i ben gyda buddugoliaeth o un gôl i ddim yn erbyn Southport ar y Cae Ras nos Fawrth.
Roedd y Dreigiau wedi mynd am bedair gêm heb ennill yn Uwch Gynghrair Skrill cyn ymweliad Southport ond roedd gôl Joe Anyinsah chwarter awr o’r diwedd yn ddigon i ddod â’r rhediad hwnnw i ben.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe gafodd y ddau dîm well cyfleoedd yn yr ail gyfnod. Gwastraffodd yr ymwelwyr un da ddeunaw munud o’r diwedd ac fe fanteisiodd Wrecsam yn llawn ddau funud yn ddiweddarach wrth i Anyinsah rwydo unig gôl y gêm
Mae’r Cymry yn aros tua gwaelodion tabl y Gyngres er gwaethaf y fuddugoliaeth, wrth i’r tri phwynt eu codi un lle yn unig i’r pedwerydd safle ar bymtheg.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Clowes (Hunt 55′), Ashton, Artell, Clarke, Anyinsah, Keates, Harris, Carrington, Ormerod (Bailey-Jones 77′), Bishop (Ogleby 84′)
Gôl: Anyinsah 75’
.
Southport
Tîm: Hurst, Smith, Challoner, Fitzpatrick, Brown, Chalmers (Rutherford 46′), George, Irie-Bi (Osawe 46′), Ledsham, Milligan, Tames (Hattersley 70′)
Cerdyn Melyn: Brown
.
Torf: 2,734