Craig Bellamy
Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ymddeol o bel-droed rhyngwladol.

Fe fydd ymosodwr Cymru yn chwarae ei gêm olaf dros ei wlad yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel ddydd Mawrth nesaf ar ôl chwarae ei gêm gartref olaf yn erbyn Macedonia yn Stadiwm Caerdydd nos Wener.

Mae’r  Cymro 34 oed sy’n hanu o Gaerdydd wedi sgorio 19 gôl mewn 76 gêm ryngwladol dros ei wlad ers ei ymddangosiad cyntaf yn 1998.

Dim ond Ian Rush (28), Trevor Ford (23), Ivor Allchurch (23), a Dean Saunders (22) sydd wedi sgorio mwy o goliau dros Gymru.

Chwaraeodd Bellamy ei gêm gyntaf dros Gymru pan ddaeth oddi ar y fainc mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Jamaica ar 25 Mawrth 1998.

Sgoriodd ei gôl gyntaf dros Gymru yn erbyn Malta yn ei ail gêm.

Fe ddaeth uchafbwynt yrfa ryngwladol Bellamy  pan sgoriodd ail gôl Cymru i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn yr Eidal mewn gêm gymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Ewro 2004 ym mis Hydref 2002.

Bu hefyd yn gapten y tîm cenedlaethol am gyfnod pan fu John Toshack yn rheolwr Cymru.

‘Braint’

“Mae chwaraewyr yn mynd a dod ac mae fy ngyrfa i’n sicr wedi mynd a dod,” meddai’r ymosodwr. “Fydda’i ddim yn chwarae ym mis Tachwedd. Bydd y rowndiau rhagbrofol nesa’n para dwy flynedd a dwi ddim am fod o gwmpas i’w gweld.”

“Mae gan y genhedlaeth ifanc yma o chwaraewyr gwell siawns o gyrraedd twrnamaint. Dwi jyst mor ddiolchgar mod i wedi cael y cyfle i chwarae dros fy ngwlad.

“Mae chwarae i’ch gwlad ar unrhyw lefel, mewn unrhyw chwaraeon, yn fraint.”

Mae’r ymosodwr wedi chwarae i nifer o glybiau mawr yr Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd, gan gynnwys Man City, Newcastle, Lerpwl, Norwich a Coventry.

Dychwelodd i Gaerdydd y tymor diwethaf ac roedd yn rhan o’r tîm a sicrhaodd ddyrchafiad yr Adar Gleision yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr.