Mae yna nifer o glybiau yn awyddus i arwyddo Luke Moore. Nid oedd lle i’r blaenwr yn y garfan sy’n ymarfer yn yr Iseldiroedd ar gyfer y tymor newydd.
Yn ogystal â Moore nid oedd lle i Alan Tate, Kemy Agustien a Leroy Lita yn y garfan. Mae gan Moore, a ymunodd â’r Elyrch o West Brom, flwyddyn ar ôl o’i gytundeb – ond mae’n bur debyg y bydd y blaenwr 27 oed yn gadael y clwb.
Yn ôl adroddiadau mae Hull, Stoke City, Crystal Palace, Caerlŷr, Blackburn Rovers a Wigan yn dangos diddordeb yn y chwaraewr.
Fe sgoriodd Moore dair gôl mewn 16 gêm y tymor diwethaf er iddo ddechrau nifer o’r gemau hyn ar y fainc.