Fe fydd Andy Murray yn derbyn gair o gyngor gan Syr Alex Ferguson cyn ei gêm yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Jerzy Janowicz yn Wimbledon y prynhawn yma.
Yn ei gêm ddiwethaf roedd Murray yn colli o ddwy set i ddim, cyn ymladd nôl i guro Fernando Verdasco o dair set i ddwy ddydd Mercher. Yn dilyn y gêm fe gafodd Murray gyfle i gael sgwrs gyda Syr Alex Ferguson.
‘‘Fe wnes drafod llawer o bethau gydag ef am rhyw ugain munud,” meddai Murray.
“Fe fuom yn trafod pethau fel ei ymddeoliad a phêl-droed, ac fe roddodd gyngor da i mi sut i ddelio gyda’r papurau a’r disgwyliadau sydd ar chwaraewyr. Mae cael cyngor gan rywun o safon Syr Alex fel aur ac ni fyddaf yn rhannu llawer ohono,’’ ychwanegodd y chwaraewr 26 oed.
Polyn tal
Mae Murray yn ymwybodol y gall gael ei gosbi os na fydd ar ben ei gêm o’r dechrau heddiw. Janowicz yw’r rhwystr olaf yn ei ffordd wrth iddo ymdrechu i gyrraedd y rownd derfynol am yr ail flwyddyn yn olynol.
Fe wnaeth y chwaraewr 22 oed o wlad Pwyl, sy’n 6’8’’, drechu ei gydwladwr Łukasz Kubot i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
Ef yw’r Pwyliad cyntaf i gyrraedd y rownd derfynol yn un o’r prif bencampwriaethau.
‘‘Mae’rchwaraewyr wedi bod yn ymwybodol o’i allu yn ystod y gystadleuaeth ac fe fydd yn rhaid i mi fod ar fy ngorau o’r dechrau a chymryd pob cyfle a ddaw yn ystod y gêm,’’ ychwanegodd Murray.