Mae rheolwr Caerdydd, Malky Mackay wedi dweud fod y clwb yn agos iawn i arwyddo Thomas Ince, asgellwr 21 oed clwb pêl-droed Blackpool.

Fe wnaeth Paul Ince, rheolwr Blackpool a thad y chwaraewr, ddweud bod y clwb wedi derbyn cynnig am y chwaraewr.

‘‘Mae ein cynnig am Tom wedi ei dderbyn, ac yr ydym yn gobeithio siarad ag ef unwaith y daw nôl o’i wyliau.  Yr ydym yn awyddus iawn i’w arwyddo gan ei fod yn chwaraewr ifanc cyffrous,’’ meddai Mackay.

Fe wnaeth sgorio 18 o goliau mewn 47 o gemau i Blackpool y tymor diwethaf.