Mae’r Cymro fu’n reolwr ar y Llewod wedi dweud wrth golwg360 ei fod e’n siomedig nad yw Brian O’Driscoll yng ngharfan y Llewod ar gyfer y prawf ola’ yn erbyn Awstralia yfory.
Dau Gymro fydd yn safleoedd y canolwyr i’r Llewod – Jonathan Davies a Jamie Roberts.
Roedd disgwyl i O’Driscoll gael ei enwi’n gapten yn absenoldeb Sam Warburton, sydd wedi ei anafu.
Meddai Clive Rowlands: “Fy unig siom am y Llewod yw fod Brian O’Driscoll ddim hyd yn oed yn y 23.
“Mae lot o amser gyda fi iddo fe.
“Mae ei kit e’n dweud lot amdano fe – dyw e ddim yn un o’r rheini sy’n cerdded rownd mewn blazer.
“Mae e wastad yn ei dracwisg yn barod i chwarae.
“Bydden i’n meddwl taw fe yw’r bachan perffaith i gau’r gêm ma’s yn yr ugain munud ola’ – wedi’r cyfan, mae e’n un o chwaraewyr gorau’r byd.”
Llongyfarch Alun Wyn Jones
Er ei siom am O’Driscoll, mae Clive Rowlands yn credu fod Alun Wyn Jones yn fwy na chymwys i fod yn gapten.
“Mae Alun-Wyn Jones yn ddyn arbennig ac yn bwysig iawn yn y gêm.
“Mae ffordd hyfryd gyda fe ac rwy’n falch iawn drosto fe a’i deulu.
“Wedi dweud hynna, fe alle Ian Evans yn rhwydd fod wedi chwarae, ac fe fydde Justin Tipuric bob amser yn un o’r enwau cynta’ ar y papur i fi.”
Jonathan Davies
Cafodd barn Clive Rowlands ei hategu gan ganolwr y Llewod, Jonathan Davies, fydd yn gwisgo crys rhif 13.
“Mae’n bosib na fydd unrhyw un arall yn cyflawni’r hyn mae Brian O’Driscoll wedi’i gyflawni yn y gêm.
“Mae e wedi bod yn chwaraewr gwych.
“Falle na fydd e’n lico’r ffaith ’mod i’n dweud hyn, ond rwyf wedi tyfu i fyny’n ei wylio fe’n chwarae.
“Rwyf wedi edmygu’i waith e, ac mae cael chwarae gyda fe wedi bod yn arbennig iawn.
“Mae edmygedd mawr gyda fi i’r dyn a llawer o barch hefyd.”
Mae Davies yn un o chwech o’r Llewod fydd wedi chwarae yn y tri phrawf ar y daith, ynghyd â Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Sexton, Adam Jones ac Alun-Wyn Jones.