Geraint Thomas
Mae’r seiclwr Geraint Thomas wedi cyfaddef y gall ei anaf ei orfodi i fethu gweddill y Tour de France.
Mae’r Cymro wedi brwydro drwy dri chymal y ras ar ôl torri asgwrn yn ei belfis mewn damwain ar y diwrnod agoriadol.
‘‘Mae bendant wedi gwella dros y diwrnodau diwethaf. Ond ar yr un pryd, os ydw i’n teimlo fy mod yn gwaethygu ar ôl wythnos neu ddeg diwrnod yna bydd yn rhaid penderfynu os ydw i am aros neu beidio,’’ meddai Thomas.
Mae’r beiciwr o dîm Sky wedi derbyn canmoliaeth uchel am ei ddewrder i barhau a’r daith a hyd yn oed wedi gwella ei safle yn y ras o fod yn olaf ar brynhawn Sul i fod yn safle rhif 176 ddydd Mawrth yn Nice.
Mae Thomas wedi canmol tîm Sky am eu rôl i’w gadw yn y ras, a dywedodd mai ei benderfyniad i barhau a’r ras oedd er mwyn ad-dalu eu cefnogaeth.