Neil Taylor gyda rhai o'r bobl ifanc yn India
Yr wythnos hon fe fuodd Neil Taylor, amddiffynnwr yr Elyrch yn ymweld â phrosiect Kolkata Goalz Premier Skills yn India, sy’n cael ei rhedeg gan y Cyngor Prydeinig a’r Uwch Gynghrair.
Yn ystod ei ymweliad bu Taylor yn cynnal sesiwn hyfforddi gyda grŵp brwdfrydig o bobl ifanc gan ddangos iddyn nhw sut y gall pêl-droed ennyn ymddiriedaeth diddordeb pobl ledled y byd.
Mae’r prosiect Kolkata Goalz Premier Skills yn adeiladu ar raglen Kickz yn y DU, sef partneriaeth rhwng yr Uwch Gynghrair a’r Heddlu Metropolitan sy’n targedu pobl ifanc sy’n wynebu risg yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad.
Gan ddefnyddio model Kickz fel enghraifft, addaswyd Kolkata Goalz Premier Skills er mwyn cynnwys dros fil o blant a phobl ifanc sydd rhwng 12-18 oed mewn deuddeg o gymunedau sydd ar y cyrion ledled y ddinas.
‘‘Efallai fydd pobl yn dweud fy mod i wedi ysbrydoli ambell un yn dod yma… ond, yn bendant, dwi wedi cael fy ysbrydoli ganddyn nhw,’’ meddai Taylor ar ôl clywed straeon am rai o’r plant oedd wedi troi at bêl-droed am help.