Michael Laudrup
Bydd tîm Michael Laudrup yn chwarae pedair gêm ar eu taith 10 diwrnod yn yr Iseldiroedd gan gynnwys timau fel ADO Den Haag a NEC Breda.

Bydd y daith yn rhoi cyfle i’r garfan ymarfer a chystadlu cyn i dymor yr Uwch Gynghrair ddechrau ym mis Awst.

‘‘Mae’n wych i fod nôl ac i weld pawb ar ôl gwyliau’r haf, ar ôl trafod gyda phawb am yr hyn a wnaethon nhw dros y gwyliau, mae’n amser i fynd i weithio,’’ meddai amddiffynnwr yr Elyrch, Ben Davies.

Yr adeg hon y llynedd, fe wnaeth yr Elyrch hedfan i’r Unol Daleithiau i ymarfer cyn i’r Uwch Gynghrair ddechrau.

Gyda nifer o wynebau newydd yn Abertawe’r tymor hwn, dywed Ben Davies y bydd y daith yn gyfle arbennig i ddod i adnabod ei gilydd cyn y tymor newydd.

‘‘Bydd y daith yma’n dda i ni, roedd y daith llynedd yn fuddiol iawn i mi yn bersonol,’’ ychwanegodd Davies.

Fe fydd yr Elyrch yn herio’r Pencampwyr presennol Manchester United yn ei gêm gyntaf y tymor hwn.