Ryan Giggs
Mae Ryan Giggs wedi cael ei benodi’n chwaraewr-hyfforddwr yn nhîm hyfforddi newydd Man U.

Cafodd ei benodi heddiw gan y rheolwr newydd, David Moyes.

Cafodd Moyes ei benodi’n rheolwr ddiwedd y tymor diwethaf yn lle Syr Alex Ferguson, sydd wedi ymddeol.

Mae e’n ymuno â chyn-amddiffynnwr a chwaraewr canol-cae Man U, Phil Neville.

Penderfynodd ymestyn ei gytundeb fel chwaraewr am flwyddyn arall ddiwedd y tymor diwethaf.

Dywedodd Ryan Giggs: “Mae’n fraint o’r mwyaf cael fy mhenodi’n chwaraewr-hyfforddwr.

“Gobeithio y gallai ddod â’m profiad iddi, wedi i mi fod yn chwaraewr ac yn rhan o deulu Man U ers cyhyd.”

Mae arbenigwyr yn y byd pêl-droed yn disgwyl iddo gael ei benodi’n rheolwr yn y dyfodol, ac mae e wedi dechrau ennill bathodynnau hyfforddi UEFA.

“Dydy hi ddim yn gyfrinach fy mod i wedi bod yn ennill cymwysterau ac rwy’n gweld hwn fel y cam cyntaf ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.

“Rwy wir yn edrych ymlaen at gael gweithio ochr yn ochr â David a’r tîm.”