Sgoriodd y chwaraewr amryddawn o Seland Newydd, Nathan McCullum 18 oddi ar bum pelen yn erbyn Swydd Warwick neithiwr i arwain Morgannwg i’w hail fuddugoliaeth mewn dwy gêm yn y T20.
Roedd ei fatiad yn cynnwys dau chwech ac un pedwar, ac fe gafodd ei gefnogi gan Marcus North (37).
Cawson nhw’r fuddugoliaeth gyda phum pelen yn weddill o’r batiad.
Penderfynodd Morgannwg fowlio’n gyntaf ar ôl ennill y dafl.
Roedd dau newid i’r tîm, gyda Nick James yn dod i mewn yn lle Jim Allenby ac Alex Jones yn eilydd i Will Owen.
Michael Hogan a Graham Wagg gafodd y cyfrifoldeb o fowlio’r bêl newydd, ond fe gafodd Swydd Warwick ddechrau da i’r batiad.
Methodd y capten Marcus North â dal y bêl i gael gwared ar Varun Chopra yn y drydedd pelawd, ond cafodd William Porterfield ei ddal dair pelen yn ddiweddarach, gyda daliad gwych gan Graham Wagg.
Aeth sgôr Swydd Warwick o 15/1 i 32/4 mewn 14 o belenni wrth i Nick James gael gwared ar Laurie Evans, cyn i Alex Jones a Nathan McCullum waredu ar Chopra a Chris Woakes rhyngddyn nhw.
Cynigiodd Darren Maddy a Rikki Clarke rywfaint o sefydlogrwydd i’r ymwelwyr, gan gyrraedd partneriaeth o dros 50.
Diflannodd Maddy yn fuan wedyn, wrth i Hogan ei ddal oddi ar fowlio Wagg, ac fe gafod Clarke ei ddal gan Mark Wallace oddi ar yr un bowliwr, wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 105/6.
Cafodd Steffan Piolet ei redeg allan i symud y sgôr i 109/7, a chafodd Jeetan Patel ei ddal gan Alex Jones oddi ar fowlio Wagg, cyn i Hogan fowlio Pete Mackay, a chafodd Ateeq Javid ei redeg allan gan Chris Cooke oddi ar belen olaf y batiad.
Gyda tharged o 119 i ennill, cafodd Mark Wallace ei ddal oddi ar ail belen y batiad, ac aeth Murray Goodwin yn fuan wedyn.
Cyrhaeddodd Morgannwg 40/2 yn ystod y cyfnod clatsio.
Cafodd Cooke ei stympio yn fuan wedyn, cyn i Ben Wright gael ei ddal yn mynd am ergyd fawr i’r ffin.
Gyda’r sgôr yn 67/4, roedd talcen caled yn wynebu Morgannwg.
Wrth i Nick James a Marcus North ddatblygu partneriaeth, roedd angen 42 oddi ar 36 o belenni am fuddugoliaeth.
Cafodd James ei redeg allan wrth i’r tîm cartref gyrraedd 98/5.
Daeth Wagg i’r llain, wrth i Forgannwg geisio sgorio 17 o rediadau oddi ar y ddwy belawd olaf.
Ond cafodd North ei fowlio gan Jeetan Patel, a daeth awr fawr Nathan McCullum.
Wrth i fowliwr o Seland Newydd wynebu batiwr o Seland Newydd, daeth tro ar fyd i Forgannwg.
Sgubodd McCullum am bedwar cyn taro chwech anferth i mewn i’r prif eisteddle.
Gyda phedwar o rediadau’n weddill, penderfynodd McCullum daro Chris Wright yn syth dros ei ben am chwech rhediad i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda phum pelen ar ôl o’r batiad.