Mae Abertawe wedi arwyddo chwaraewr canol-cae 21 oed Lerpwl, Jonjo Shelvey ar gytundeb pedair blynedd.
Teithiodd Shelvey i Abertawe ddoe i gael prawf meddygol ac i drafod telerau ei gytundeb.
Prin oedd ei gyfleoedd yn Anfield yn ystod y tymhorau diwethaf.
Mewn datganiad, dymunodd Lerpwl yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.
Treuliodd dair blynedd yn Lerpwl ar ôl ymuno o Charlton yn 2010 am £1.7 miliwn.
Chwaraeodd 69 o weithiau i’r clwb, gan sgorio saith gôl.
Bydd yr Elyrch yn talu £5 miliwn ar unwaith, ac fe fydd taliadau ychwanegol yn cael eu gwneud yn y dyfodol yn ddibynnol ar amodau arbennig.
Fe fydd Shelvey ar gael ar gyfer taith yr Elyrch i’r Iseldiroedd i baratoi ar gyfer y tymor newydd.
Mae Shelvey yn ychwanegu at restr hir o chwaraewyr newydd yr Elyrch, sy’n cynnwys Alejandro Pozuelo, Jose Canas, Jordi Amat, Gregor Zabret ac Alex Gogic.
Ddoe, dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins fod angen arwyddo nifer o chwaraewyr o Brydain er mwyn cadw at reolau’r Uwch Gynghrair.
Mae Shelvey wedi cynrychioli tîm dan 21 Lloegr.