Huw Jenkins
Mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins wedi dweud bod angen i’r clwb sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o chwaraewyr o Brydain.

Mae rheolau’r Uwch Gynghrair yn nodi bod angen o leiaf wyth Prydeiniwr yn y garfan o 25.

Mae gan yr Elyrch saith o Sbaenwyr a nifer o chwaraewyr o wledydd eraill eisoes.

Yr wythnos hon, mae’r clwb wedi arwyddo’r Sbaenwyr Alejandro Pozuelo, Jose Canas a Jordi Amat, yn ogystal â Gregor Zabret o Slofenia ac Alex Gogic o Gyprus.

Maen nhw’n ymuno â Michu, Angel Rangel, Chico Flores a Pablo Hernandez.

Hefyd, mae gan Abertawe’r Iseldirwyr, Michel Vorm, Dwight Tiendalli, Kemy Agustien a Jonathan de Guzman, y gŵr o Dde Corea, Ki Sung-Yueng, Roland Lamah o Wlad Belg, a Gerhard Tremmel o’r Almaen.

Mewn ymgais i gynyddu nifer y Prydeinwyr yn y garfan, mae’r Elyrch yn ceisio arwyddo amddiffynnwr Lerpwl, Jonjo Shelvey.

Maen nhw wedi gwneud cais gwerth £6 miliwn am y chwaraewr sydd wedi cynrychioli tîm dan 21 Lloegr, ac mae disgwyl iddo drafod telerau ei gytundeb gydag Abertawe heddiw.

Dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins: “Rhaid i ni sicrhau bod gwneuthuriad y garfan yn iawn.

“Yn amlwg, rhan o hynny yw sicrhau bod gyda ni hyn a hyn o chwaraewyr Prydeinig ynddi.

“Rhaid i ni wneud hynny – does dim dewis gan mai dyna’r rheolau.”