Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan ar gyfer eu gêm yn erbyn Swydd Warwick yn Stadiwm Swalec heno.

Trechodd Morgannwg Swydd Gaerwrangon o 58 rhediad nos Wener diwethaf, wrth i Chris Cooke daro 57 oddi ar 27 o belenni.

Fe fydd y chwaraewr amryddawn o Seland Newydd, Nathan McCullum yn ymddangos yn nhîm Morgannwg am y tro cyntaf.

Mae e wedi arwyddo cytundeb byr gyda’r sir ar gyfer y gystadleuaeth T20.

Fe fydd y gêm yn dechrau am 6.30pm heno, ond sylwebaeth Saesneg yn unig fydd ar gael trwy’r we ac ar Radio Wales.

Mae’r ornest hefyd yn cael ei darlledu ar SKY Sports.

Penderfynodd S4C dynnu allan o’u cytundeb i ddangos y gystadleuaeth T20 eleni, gan ddweud wrth Golwg360 fod ffactorau megis y tywydd wedi effeithio ar eu hamserlenni yn ystod y tymhorau diwethaf.

Carfan Morgannwg: Jim Allenby, Mark Wallace (wicedwr), Chris Cooke, Marcus North (capten), Murray Goodwin, Ben Wright, Stewart Walters, Nathan McCullum, Nick James, Dean Cosker, Michael Hogan, Will Owen, Graham Wagg, Alex Jones