Mae Abertawe wedi arwyddo chwaraewr canol-cae Real Betis, Alejandro Pozuelo.

Pozuelo yw’r seithfed Sbaenwr yn Stadiwm Liberty, ac fe fydd e’n ymuno â’i gyd-wladwyr sydd newydd ddod i Abertawe, Jose Canas a Jordi Amat.

Daeth cytundeb Pozuelo i ben ddiwedd y tymor, ac fe ddaeth i Gymru ar gytundeb tair blynedd.

Dydy’r Elyrch ddim wedi cyhoeddi pris y chwaraewr.

Chwaraeodd Pozuelo 11 o weithiau yn La Liga yn Sbaen y tymor diwethaf.

Dywedodd: “Rwy’n hapus iawn fy mod i wedi ymuno ag Abertawe.

“Ers i fi fod yn fachgen bach, fy mreuddwyd fu chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

“O’r foment wnes i glywed am ddiddordeb Abertawe, rwy wedi gwylio’u gemau nhw ac wedi dilyn newyddion y clwb.

“Mae arddull y chwarae ac arddull y rheolwr  yn fy siwtio i.”

Dau chwaraewr ifanc o Ewrop

Yn y cyfamser, mae’r Elyrch wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo dau chwaraewr ifanc o Ewrop – y golwr 17 oed o Slofenia, Gregor Zabret a’r chwaraewr canol-cae 19 oed, Alex Gogic.

Daw Zabret o glwb NK Domzale ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Slofenia y tymor diwethaf, ac mae Gogic o glwb Olympiakos yng Ngroeg wedi cynrychioli tîm dan 19 Cyprus.

Mae amddiffynnwr canol Abertawe, Kyle Bartley, gafodd ei arwyddo o Arsenal, wedi symud i Birmingham ar fenthyg.