Logo newydd y clwb
Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai Clwb Pêl-droed Caerdydd ystyried gwerthu cyfrannau ar y farchnad stoc.

Cafodd 36.1% o’r clwb ei brynu gan y dyn busnes o Falaysia, Vincent Tan yn 2010 ac, yn ôl asiantaeth newyddion Reuters, mae Tan yn ystyried gwerthu’r cyfrannau ar farchnad stoc Kuala Lumpur.

Mae’r clwb wedi gwrthod gwneud sylw

Dyrchafiad

Fe fydd yr Adar Gleision yn cystadlu yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, wedi iddyn nhw sicrhau dyrchafiad awtomatig trwy ennill y Bencampwriaeth.

Caerdydd fyddai’r ail glwb yn yr Uwch Gynghrair i werthu cyfrannau yn y flwyddyn ddiwethaf pe baen nhw’n penderfynu bwrw ymlaen gyda’r cynllun.

Cafodd Man U eu rhestri ar farchnad stoc Efrog Newydd fis Awst y llynedd.

Dadleuol

Cymysg fu’r ymateb gan gefnogwyr Caerdydd i arweinyddiaeth y dyn busnes o Falaysia, yn dilyn cyflwyno nifer o gamau dadleuol i ail-frandio’r clwb ac apelio at gynulleidfaoedd yn y dwyrain pell.

Bellach, mae’r tîm, sydd yn draddodiadol wedi gwisgo crysau gleision, bellach yn gwisgo crysau cochion.

Dywedodd Vincent Tan, sy’n werth hyd at $1.3 biliwn, fod y lliw coch yn lwcus ym Malaysia, a’i fod yn debygol o ddenu mwy o nawdd o wlad ei febyd trwy newid lliw y crysau.