Byddai gêm gyfartal heno yn erbyn Charlton Athletic yn ddigon i fynd â Chaerdydd yn ôl i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers dros hanner can mlynedd.

Ar ôl i Gaerdydd guro Notts Forest o 3-0 a Watford golli i Peterborough ddydd Sadwrn mae tîm Malky Mackay ddeuddeg pwynt yn glir o’r trydydd safle gyda dim ond pedair gêm ar ôl.

Mae’r cefnogwyr yn amlwg yn hyderus gan fod pob tocyn tymor wedi ei werthu ar gyfer y tymor nesaf, ond heno maen nhw’n wynebu tîm a lwyddodd i sgorio chwe gôl yn erbyn Barnsley dros y penwythnos.

Mae’r clwb sy’n ail yn y Bencampwriaeth, Hull, yn wynebu Wolves heno. Mae’r ddau glwb yn ysu i ennill – Hull er mwyn esgyn, a Wolves er mwyn osgoi disgyn.

Ond byddai buddugoliaeth i Gaerdydd heno yn eu rhoi nhw gam yn nes at fod yn bencampwyr y Bencampwriaeth.

Mae’r gêm yn dechrau am 7.45 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda sylwebaeth fyw ar BBC Radio Cymru.