Michael Owen
Mae cyn-ymosodwr Lloegr, Michael Owen wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.

Dechreuodd y chwaraewr 33 oed ei yrfa gyda Lerpwl, cyn symud i Sbaen gyda chlwb Real Madrid, ac yna Newcastle a Man U.

Ymunodd â Stoke ar ddechrau’r tymor hwn ond chafodd e fawr o gyfle i chwarae  hyd yma.

Dywedodd ar ei wefan bersonol: “Gyda balchder anferthol, rwy’n cyhoeddi fy mwriad i ymddeol o’r byd pêl-droed proffesiynol ar ddiwedd y tymor hwn.”

Daeth i amlygrwydd ar y llwyfan rhyngwladol yng Nghwpan y Byd 1998 yn 18 oed, wrth iddo sgorio gôl gofiadwy yn erbyn Yr Ariannin.

Mae’n bedwerydd ar restr sgorwyr goliau Lloegr, gyda 40 gôl mewn 89 gêm – dim ond Bobby Charlton, Gary Lineker a Jimmy Greaves sydd wedi sgorio mwy o goliau.

Mynegodd ei falchder yn yr hyn y mae e wedi’i gyflawni, gan ddweud ei fod e wedi bod ar “daith… y gallwn i ond wedi breuddwydio amdani”.

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar i’r holl reolwyr, hyfforddwyr, cyd-chwaraewyr, staff cynorthwyol, cefnogwyr a noddwyr y bu’n gweithio gyda nhw yn ystod ei yrfa, ac yn enwedig ei deulu am eu cefnogaeth.