Mae cwmni BT wedi cyhoeddi eu bod nhw’n creu 400 o swyddi drwy lansio gwasanaeth teledu newydd ar gyfer chwaraeon.

Bydd swyddi’n cael eu creu yn Accrington, Caergaint, Doncaster, Truro, Warrington, Newcastle, Glasgow a Dundee.

Drwy lansio BT Sport, a fydd yn dangos 38 o gemau Uwch Gynghrair Bêl-droed Barclays, bydd 200 o swyddi hefyd yn cael eu diogelu.

Bydd y 200 o staff presennol yn cael eu hail-hyfforddi i weithio yn yr adran gymorth i gwsmeriaid.

Dywedodd prif weithredwr BT, Gavin Patterson: “Mae BT Sport yn bennod newydd bwysig i ni ac mae’n addo rhoi hwb i economi’r DU drwy greu cannoedd o gyfleoedd gwaith newydd ledled y DU.”