Chris Coleman
Bydd Cymru’n chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Awst.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ar Awst 14 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ac yn ôl rheolwr Cymru Chris Coleman bydd hi’n “brawf defnyddiol cyn i ni droi at ddwy gêm ragbrofol Cwpan y Byd ym mis Medi.”

“Ni’n adnabod eu chwaraewyr nhw’n dda, a nhw’n ein hadnabod ni, felly mae’n addo bod yn gêm dda i ddechrau’r tymor newydd a gobeithio daw ein cefnogwyr ni yno i annog y tîm.”

Y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd oedd yn Chwefror 2011 pan enillodd gwŷr Giovanni Trapattoni o 3-0 yn Nulyn.

Tri’n tynnu allan o garfan yr Alban

Mae gêm nesaf Cymru nos Wener yma yn erbyn yr Alban ar barc Hampden.

Mae tri Albanwr wedi tynnu allan o garfan Gordon Strachan – cyn-chwaraewr Caerdydd Ross McCormack, James Forrest o Celtic a Danny Fox o Southampton, a fu’n chwarae dan Chris Coleman yn Coventry.