Mae is-hyfforddwr Cymru Shaun Edwards wedi dweud ei fod bron â rhoi’r gorau i rygbi’r undeb ar ôl i Warren Gatland benderfynu peidio â’i ddewis fel un o’r hyfforddwyr taith y Llewod eleni.
Andy Farrell, is-hyfforddwr Lloegr, oedd dewis Warren Gatland ar gyfer y daith i Awstralia, a dywedodd Edwards yn ei golofn yn y Guardian mai’r tridiau ar ôl derbyn y newydd oedd dyddiau caletaf ei yrfa rygbi.
“Roedd mynd i Dde Affrica gyda’r Llewod yn 2009 yn un o’r uchafbwyntiau mawr, ac yna roedd clywed nad oeddwn i’n mynd i fod yn rhan o’r daith i Awstralia wedi gwneud i fi eisiau rhoi’r ffidil yn y to.”
“Cymrodd hi 72 awr i fi waredu â’r syniadau yna a Dydd Sadwrn, yng nghanol chwaraewyr a chyd-hyfforddwyr Cymru, deallais i pam wnes i’r penderfyniad.
“Maen nhw wedi bod yn wych gyda fi, wedi fy nhrin i fel un ohonyn nhw ac mae dyn sy’n rhan o’r fath dîm yn ddyn lwcus,” meddai.
Will Carling: ‘Cosfa hen-ffasiwn’
Mae cyn-gapten Lloegr Will Carling wedi dweud mai’r golled i Gymru yw’r gwaethaf mae Lloegr wedi ei ddioddef mewn chwarter canrif.
“Dyma beth oedd cosfa hen-ffasiwn,” meddai’r cyn-ganolwr.
“Roedd hi’n anodd i dderbyn gan fod neb wedi proffwydo’r fath golled.
“Roedd hi’n boenus i wylio, a mae Lloegr wedi dysgu gwersi go iawn.”