Mae gêm Bencampwriaeth gyntaf Morgannwg y tymor hwn, yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd, wedi gorffen yn gyfartal.
Roedd Morgannwg yn 70 am un yn eu hail fatiad erbyn toc ar ôl 5 o’r gloch ar y diwrnod olaf, ar ôl bowlio Swydd Northampton allan am 750 – eu cyfanswm mwyaf erioed yn erbyn Morgannwg.
Sgoriodd chwe batiwr ganred yn ystod y gêm ar lain oedd wedi cynnig braidd dim cymorth i’r bowlwyr o’r belen gyntaf un.
Manylion y diwrnod olaf
Roedd Swydd Northampton yn 522 am bedair ar ddechrau’r diwrnod olaf, ac fe adeiladodd Adam Rossington (70) a Rob Keogh (150) bartneriaeth o 169 am y bumed wiced.
Cwympodd pum wiced ola’r batiad am 128, wrth i Forgannwg ddefnyddio deg bowliwr – y capten a’r wicedwr Chris Cooke oedd yr unig un oedd heb fowlio’r un belawd.
Y troellwr coes o Awstralia, Marnus Labuschagne oedd y bowliwr mwyaf llwyddiannus wrth gipio tair wiced. Roedd dwy wiced yr un hefyd i Graham Wagg, bowliwr cyflym oedd wedi gweithredu fel troellwr llaw chwith, a’r bowliwr achlysurol Billy Root.
Gêm i’r batwyr
Roedd yr ysgrifen ar y mur yn gynnar yn yr ornest, wrth i Forgannwg sgorio 570 am wyth cyn cau eu batiad cyntaf.
Roedd canred yr un i Marnus Labuschagne (121), Billy Root (126) a Kiran Carlson (111), gyda’r olaf ohonyn nhw’n sgorio’r cyfan mewn un sesiwn.
Wrth ymateb, adeiladodd Ricardo Vasconcelos (184) a Rob Newton (105) bartneriaeth agoriadol o 303.
Tarodd Rob Keogh 150, ac roedd hanner canred yr un i Adam Rossington (70) a Nathan Buck (53), ei hanner canred cyntaf erioed.
Roedd Morgannwg yn 70 am un pan ddaeth y gêm i ben – yr unig fatiwr allan oedd Nick Selman, oedd wedi cael ei fowlio gan Josh Cobb am 22.
Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Morgannwg yn cael eu cosbi am gyflwr y llain, gyda rhai yn awgrymu y gallen nhw dderbyn rhybudd.
Ar y cyfan, cafodd 1,390 o rediadau eu sgorio dros ychydig yn fwy na dau fatiad, gyda dim ond 19 wiced yn cwympo.