Mae cyfres o deyrngedau ar y gweill i nodi 30 mlynedd ers trychineb Hillsborough.
Cafodd 96 o gefnogwyr eu lladd ar ôl cael eu gwasgu i farwolaeth ar derasau’r cae yn Sheffield, wrth i dîm pêl-droed Lerpwl herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr ar Ebrill 15, 1989.
Yn groes i’r arfer, fydd dim gwasanaeth yng nghae Anfield eleni, ond fe fydd yna wasanaeth yn eglwys gadeiriol y ddinas yfory (dydd Llun, Ebrill 15, 2.45yp).
A bydd y clwb yn cynnal munud o dawelwch cyn eu gêm yn erbyn Chelsea heddiw (4.30).
Bydd cefnogwyr yn eisteddleoedd y Kop a Syr Kenny Dalglish yn dadorchuddio baneri’n dwyn y rhifau 96 a 30 arnyn nhw, a bydd y ddau dîm yn gwisgo bandiau du ar eu breichiau.
Bydd teyrngedau i’r cefnogwyr yn cael eu harddangos ar hysbysfyrddau electronig o amgylch y cae.
Bydd munud o dawelwch unwaith eto am 3.06yp yfory (dydd Llun, Ebrill 15), yr union amser y digwyddodd y trychineb.
Bydd baneri’r stadiwm yn cael eu cyhwfan ar eu hanner.
Bydd y stadiwm ar agor yfory i unrhyw un sy’n dymuno eistedd i gofio’r rhai fu farw, ond fydd dim digwyddiad swyddogol.