Alun Rhys Chivers sy’n bwrw golwg ar berfformiad Morgannwg ers dechrau’r tymor…
“Siomedig ond calonogol” oedd disgrifiad prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, Robert Croft o’r tymor diwethaf. A dyna i chi ddisgrifiad perffaith o’r tair gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn hefyd. Ydy, mae’n adeg ryfedd i fynd i ddiflasu am y dyddiau hir o haf sydd o’n blaenau ni’r cefnogwyr criced. Ond dw i’n ofni ’mod i eisoes yn diodde’ o’r hen déjà vu.
Am y tro cyntaf erioed eleni, fe gawson ni gêm sirol gyfan cyn dechrau mis Ebrill. Ond fe ddaeth i’r amlwg yn eitha’ cyflym nad oedd batwyr Morgannwg ddim eto wedi dihuno o’u trwmgwsg hydrefol. Colli o fatiad a 22 o rediadau o fewn deuddydd oedd eu hanes yn Northampton ar ôl cael eu bowlio allan am 101 a 187.
Yr unig un o blith chwaraewyr Morgannwg ddangosodd unrhyw fath o addewid oedd y bowliwr cyflym ifanc o Bontarddulais, Lukas Carey. Yn erbyn Swydd Northampton fis Awst y llynedd y gwnaeth ei farc fel chwaraewr newydd, wrth iddo fe gipio saith wiced yn eu herbyn ar gae San Helen yn Abertawe. Ac fe ddangosodd unwaith eto saith mis yn ddiweddarach fod ganddo fe ddyfodol disglair yn y gêm. Mae ’na farn sy’n dweud na ddylai’r chwaraewyr ifainc chwarae gormod o griced rhag iddyn nhw flino mor gynnar yn eu gyrfaoedd. Ond does gan Forgannwg ddim dyfnder yn eu carfan, ac mae angen dod â chwaraewyr o’r fath drwodd wrth iddyn nhw danio.
Y capten yn amlygu ei wendidau
Tra bod un o’r to iau wedi plesio yn fan hyn, rhaid dweud bod un o’r hoelion wyth – neb llai na’r capten ei hun, Jacques Rudolph – wedi dangos ei wendidau unwaith eto. Dw i wedi teimlo ers cryn amser nad yw e’n gapten naturiol, ei benderfyniadau tactegol yn wan iawn ac yn ymylu ar fod yn chwerthinllyd ar adegau. Ac i’r categori hwnnw mae’r penderfyniad i fatio gyntaf ar lain Northampton yn perthyn. Roedd e eisoes wedi dangos ei fod e’n ymwybodol mai llain i’r bowlwyr oedd hi drwy ddewis pedwar bowliwr cyflym ar draul y troellwr Owen Morgan. Fe fyddai’r bowlwyr hynny’n cael tipyn mwy o gymorth nag y byddai’r troellwyr neu’r batwyr. Pam, felly, penderfynu batio ar ôl galw’n gywir? Do, fe gyfaddefodd yn y pen draw ei fod e wedi gwneud camgymeriad. Ond faint yn rhagor o gamgymeriadau a cholli gemau fydd yn dderbyniol gan y rheiny sy’n dewis y tîm a’r capten?
Ymhell o fod yn drydanol ar y Swalec…
O Northampton yn ôl i’r Swalec i ‘herio’ Swydd Gaerwrangon. Y peth gorau y gellir ei ddweud am berfformiad y batwyr yn y gêm hon oedd eu bod nhw, fel uned, wedi llwyddo i sicrhau un pwynt bonws drwy sgorio 200. Ond fe orffennodd y gêm o fewn tridiau y tro hwn. Yr unig berfformiadau sy’n werth sôn amdanyn nhw o safbwynt y batio yn y batiad cyntaf yw’r 88 gan David Lloyd, wedi’i gefnogi gan… ie, Lukas Carey (39), oedd hefyd wedi cipio pedair wiced yn y gêm. Tarodd Aneurin Donald 57 yn yr ail fatiad ond 223 gawson nhw fel tîm. Ond nod o 28 yn unig oedd gan Swydd Gaerwrangon i ennill.
Perfformiad mwy urddasol yn Grace Road
I Gaerlŷr am y drydedd gêm a does ond gobeithio mai’r perfformiad gyda’r bat yn y fan honno fydd yn cael ei ailadrodd am weddill y tymor. Er i Lukas Carey gipio pedair wiced yn y batiad cyntaf, llain i’r batwyr sydd yn Grace Road, ac fe gyrhaeddodd y Saeson 400 yn gyfforddus. Maddeuwch i fi am fod yn negyddol, ond ro’n i’n disgwyl i Forgannwg golli o fatiad a mwy unwaith eto ar sail y ddwy gêm gyntaf. Ond yma y cawson ni’r arwyddion cyntaf fod newid ar droed yn rhengoedd y batwyr. O blith y pedwar batiwr cyntaf, dim ond David Lloyd (1) oedd wedi methu â sgorio hanner canred, wrth i Colin Ingram (137) a Nick Selman (117) daro canred yr un, ac roedd hanner canred hefyd i’r capten Jacques Rudolph (58). Yn y batiad hwn, fe lwyddodd y pedwar batiwr cyntaf i sgorio mwy o rediadau nag yr oedd y tîm cyfan wedi’u sgorio yn yr un o’u batiadau blaenorol. Ac am unwaith, fe barodd y gêm bedwar diwrnod cyfan. Wna’i eich atgoffa o eiriau Robert Croft unwaith eto yma – “siomedig ond calonogol”.
O’r bêl goch i’r bêl wen…
Yn eu doethineb honedig, mae’r ECB wedi penderfynu, ar ôl tair wythnos yn unig o griced pedwar diwrnod, fod angen bloc o gemau undydd am dair wythnos. Bydd y bloc nesaf o gemau pedwar diwrnod yn para o Fai 19 i Orffennaf 6, a’r bloc olaf rhwng Awst 28 a Medi 28.
Rhwng y ddau floc cyntaf y bydd gemau 50 pelawd yn cael eu cynnal, a’r T20 Blast yn ffitio’n daclus i’r bwlch rhwng yr ail floc a’r trydydd bloc. Ydy, mae’n beth da bod y chwaraewyr yn gallu canolbwyntio ar un gystadleuaeth ar y tro – roedd symud ar hap rhwng y tri fformat y tymor diwetha’n hunllefus i’r chwaraewyr ac roedd hi’n anodd dilyn y cystadlaethau drwodd o’r dechrau hyd y diwedd.
Ond – a dyma hanfod y peth – ychydig iawn o griced pedwar diwrnod sy’n cael ei gynnal yn ystod gwyliau’r ysgolion eleni. Criced undydd yw’r ffordd ymlaen bellach, a denu plant i wylio’r T20 Blast a Chwpan 50 pelawd Royal London yw ffordd yr ECB o geisio sicrhau dyfodol i gamp sy’n denu tipyn llai o arian na phêl-droed a rygbi, er enghraifft. Os oes gobaith i griced pedwar diwrnod – neu gemau prawf rhyngwladol, o ran hynny – mae angen strategaeth sy’n denu plant i wylio’r fformat traddodiadol.
Efallai mai gan Brian Lara mae’r ateb gorau i’r broblem – cael gwared ar gemau cyfartal. Pa gamp arall, wedi’r cyfan, sy’n para pum niwrnod ac sy’n gorffen heb fuddugoliaeth i’r naill dîm na’r llall? Pwynt teg iawn gan un o fawrion y gêm.
Diwedd y gân yw’r geiniog. Tra bod y ‘razzmatazz’ yn ffynnu, mae perygl i’r gêm ry’n ni’n ei charu gael ei llyncu gan Rupert Murdochs a Barry Hearns y byd yma. I dimau fel Morgannwg, mae perygl fod y gêm pedwar diwrnod fel y mae hi yn cynnig ychydig iawn o wobr. Maen nhw yn yr ail adran ers blynyddoedd lawer, a’r ail adran honno bellach yn cynnwys 10 tîm, a’r adran gyntaf yn fwy ‘elit’ gydag wyth tîm erbyn hyn. Mae’r agendor yn tyfu.
Tra pery pethau fel ag y maen nhw, gêm y bêl wen fydd yn bwysig i Forgannwg. Does ond gobeithio y bydd perfformiadau Morgannwg ar y cae yn adlewyrchu hynny – yn enwedig os ydyn nhw am ennill un o’r franchises dinesig yn 2020. Ond cynnwys blog at rywdro arall yw hynny.