Mae Morgannwg wedi cynnwys y bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, Timm van der Gugten yn y garfan ar gyfer gêm agoriadol y tymor yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC ddydd Llun.
Hefyd yn y garfan mae’r batiwr Colin Ingram a’r bowliwr cyflym Michael Hogan sydd wedi treulio’r gaeaf dramor.
Treuliodd Ingram y gaeaf yn Ne Affrica, lle mae’n gapten ar y Warriors, ac mae Hogan newydd dreulio ei dymor olaf gyda Gorllewin Awstralia yng nghystadleuaeth y Sheffield Shield.
Mae Hogan wedi penderfynu ymddeol o griced yn ei famwlad er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa gyda Morgannwg.
Dywedodd Hogan: “Fe ges i aeaf eitha da ac roedd hi’n braf mynd allan ar nodyn uchel yno.
“Rhaid i bopeth da ddod i ben ac rwy’n hapus iawn i fod yma nawr.”
Wrth drafod sgiliau bowlio van der Gugten, ychwanegodd Hogan: “Mae ganddo fe’r ffactor 85-90 milltir yr awr. Mae hynny’n rywbeth nad ydyn ni wedi’i gael ers sawl blwyddyn, sef rhywun sy’n gallu rhuthro’r batiwr, felly bydd hi’n ddiddorol gweld sut aiff e.
“Mae e’n rhywun all godi ofn ar gwpwl o fois yn yr adran hon.”
Wrth edrych ymlaen at y tymor, dywedodd Timm van der Gugten: “Rwy fwy na thebyg yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth pedwar diwrnod fwyaf.
“Bydd yr amodau’n wahanol iawn yma gyda’r bêl newydd a’r amgylchfyd yn wahanol hefyd, felly dw i’n edrych ymlaen at ddechrau a chael dysgu gan bawb sydd wedi bod yma’n hirach.”
Fe fydd Morgannwg yn wynebu nifer o gricedwyr o safon uchel yng ngharfan Prifysgolion Caerdydd yr MCC, gan gynnwys eu chwaraewyr eu hunain, y troellwr Kieran Bull a’r bowliwr cyflym Jack Murphy.
Hefyd yn y garfan mae un o chwaraewyr iau Morgannwg, y batiwr agoriadol Jeremy Lawlor, a darodd 81 yn erbyn Swydd Hampshire yr wythnos diwethaf.
Mae Prifysgolion Caerdydd yr MCC hefyd wedi cynnwys cyn-wicedwr Swydd Gaerloyw, Cameron Herring yn y garfan.
Morgannwg: J Rudolph (capten), J Kettleborough, W Bragg, C Ingram, C Cooke, D Lloyd, A Donald, G Wagg, C Meschede, M Wallace, T Van der Gugten, M Hogan, A Salter
Prifysgolion Caerdydd yr MCC: N Brand (capten), B Scriven, J Lawlor, C Herring, T Rouse, G Holmes, AT Thomson, A Westphal, S Griffiths, R Edwards, JR Turpin, C Brown, H Allen