Wrth i’r tymor criced dosbarth cyntaf ddechrau ddydd Sul, roedd yn fore hanesyddol wrth i Bencampwriaeth y Siroedd ddechrau o dan gyfres newydd o reolau sy’n golygu nad yw’r dafl bellach yn orfodol cyn dechrau gornest.

O dan y drefn newydd, caiff capten yr ymwelwyr ddewis fowlio’n gyntaf heb fod angen taflu’r darn arian i’r awyr.

Penderfynodd pedair o’r siroedd – Gwlad yr Haf, Swydd Warwick, Swydd Surrey a Swydd Sussex fanteisio ar y rheolau newydd, ond dewisodd capten Swydd Gaerloyw, Gareth Roderick gadw at y dull traddodiadol cyn dechrau’r ornest yn erbyn Swydd Essex yn Chelmsford.

Cafodd y rheolau newydd eu cyflwyno yn sgil pryderon am safon lleiniau yng Nghymru a Lloegr, a bod hynny’n llesteirio datblygiad chwaraewyr ifainc.