Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gwadu adroddiadau sy’n awgrymu bod y clwb ar fin cael ei werthu i gonsortiwm o Americaniaid.

Roedd erthygl gan y gohebydd Chris Wathan ddydd Sadwrn yn dweud bod y consortiwm wedi prynu cyfrannau er mwyn gallu rheoli’r clwb, ond y byddai’r cadeirydd Huw Jenkins a nifer o aelodau blaenllaw yn parhau ar y bwrdd.

Roedd yr erthygl hefyd yn dweud bod yr Ymddiriedolaeth wedi cytuno i werthu eu cyfrannau nhw i Jason Levien a Steve Kaplan. Mae’r Ymddiriedolaeth yn berchen ar 21% o gyfrannau’r clwb.

Daeth yr Ymddiriedolaeth i fod pan gafodd y clwb ei werthu gan Tony Petty yn 2002 pan fu bron i Abertawe fynd allan o’r Gynghrair Bêl-droed.

Mae lle i gredu nad yw’r buddsoddwyr newydd am newid y drefn bresennol, sy’n golygu y byddai’r Ymddiriedolwyr yn berchen ar 21% o’r cyfrannau o hyd, ac y byddai ganddyn nhw gynrychiolydd ar y bwrdd gweithredol.

Mae’n debyg eu bod nhw hefyd yn awyddus i’r clwb brynu Stadiwm Liberty er mwyn ei ehangu – 20,000 o seddi sydd yn y stadiwm ar hyn o bryd.

Ond mewn datganiad, dywedodd yr Ymddiriedolaeth mai “cyfarfod cychwynnol” a gafodd ei gynnal, ac nad ydyn nhw wedi dod i benderfyniad hyd yma.

Ychwanegodd yr Ymddiriedolaeth nad ydyn nhw wedi cael digon o amser i ystyried y cynnig, a’u bod yn “siomedig” fod y wybodaeth wedi’i chyhoeddi heb yn wybod iddyn nhw.

‘Siomedig’

Dywedodd un o’r ymddiriedolwyr, Cath Dyer wrth Golwg360: “Dydyn ni ddim i gyd wedi cwrdd fel ymddiriedolaeth. Roedd rhai o’r ymddiriedolwyr wedi cwrdd â Jason Levien cyn y gêm yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn, ond dydyn ni ddim i gyd wedi clywed beth gafodd ei ddweud.

“Ry’n ni’n siomedig nad o’n ni’n gwybod am hyn nac yn cael yr hawl i fod yn rhan o’r trafodaethau cyn y pythefnos diwethaf.

“Dy’n ni ddim yn gwybod beth yw’r telerau sy’n cael eu cynnig, felly mae’n anodd gwybod lle’r y’n ni’n sefyll.”

Wrth drafod yr angen am fuddsoddwyr newydd, ychwanegodd Cath Dyer: “Mae eisiau rhagor o arian arnon ni ac mae eisiau symud ymlaen. Ond mae popeth yn gweithio’n dda ers blynyddoedd.”