Mae gêm Bencampwriaeth gynta’r tymor criced rhwng Morgannwg a Middlesex ar gae Lord’s wedi dod i ben yn gyfartal.

Bydd yr ornest hon yn cael ei chofio ymhen blynyddoedd i ddod am orchestion Sam Northeast, capten Morgannwg, gyda’i 335 heb fod allan yn curo’r record am y sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed ar gae Lord’s – gan drechu 333 heb fod allan gan Graham Gooch dros Loegr yn erbyn India yn 1990.

Ar y diwrnod olaf, gydag unrhyw obaith o fuddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall wedi hen fynd, tarodd y chwaraewr amryddawn Ryan Higgins 221 – sgôr gorau ei yrfa – i’r tîm cartref, ar ôl taro 21 pedwar a dwy chwech.

Dyma’i ganred dwbwl cyntaf erioed, a hynny mewn partneriaeth o 114 gyda Tom Helm, oedd wedi sgorio 64, sef ei sgôr gorau erioed yntau hefyd.

Sgoriodd Middlesex 655 yn eu batiad cyntaf, sef eu sgôr gorau erioed mewn gemau dosbarth cyntaf yn Lord’s, wrth i’r troellwr Kiran Carlson gipio tair wiced i Forgannwg, gyda dwy wiced yr un i’r troellwr coes Colin Ingram a’r bowliwr cyflym Craig Miles, yn ei gêm gyntaf ar fenthyg o Swydd Warwick.

Dim ond pymtheg wiced gwympodd dros y pedwar diwrnod, ac roedd Morgannwg yn 31 am ddwy cyn i’r ornest ddod i ben.

Y diwrnod olaf

Roedd angen unarddeg rhediad ar Middlesex ar ddechrau’r diwrnod olaf i osgoi gorfod canlyn ymlaen, a gêm gyfartal oedd y canlyniad mwyaf tebygol.

Cipiodd Ingram wiced gyda daliad oddi ar ei fowlio’i hun i waredu Josh de Caires am ugain, cyn i Toby Roland-Jones gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Jamie McIlroy, y bowliwr cyflym llaw chwith.

Tra bod Higgins yn aros am ei ganred dwbwl, collodd ei bartner Henry Brookes gyda daliad oddi ar fowlio Miles i ddwylo Dan Douthwaite.

Sgoriodd Helm, fu ar fenthyg gyda Morgannwg sawl gwaith yn y gorffennol, ei hanner canred – ei bedwerydd erioed cyn i Higgins gyrraedd ei ganred dwbwl ben draw’r llain, ond cafodd hwnnw ei stympio gan Cooke oddi ar fowlio Carlson i ddod â’i fatiad i ben.

Fe wnaeth Ingram waredu Helm gyda chymorth y wicedwr i ddod â’r batiad i ben ar drothwy amser te.

Collodd Zain ul Hassan a Billy Root eu wicedi wrth i Forgannwg fatio am yr ail waith – y naill wedi’i ddal gan y wicedwr Jack Davies oddi ar fowlio Ethan Bamber, a’r llall wedi’i ddal yn y slip gan Higgins oddi ar fowlio Leus du Plooy i roi ei wiced gyntaf iddo i’w sir newydd.

Ond batiad hanesyddol Sam Northeast fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl yr ornest hon.

Crynodeb o’r ornest

Sgoriodd Morgannwg 620 am dair cyn cau eu batiad cyntaf, gyda Sam Northeast yn wynebu 412 o belenni wrth gyrraedd 335 heb fod allan a threchu record Gooch a rhagori ar y sgôr gorau erioed yn Lord’s.

Wrth gyrraedd 186 heb fod allan erbyn diwedd y diwrnod cyntaf, aeth Northeast heibio’r garreg filltir o 20,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa ac roedd Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ôl cael eu gwahodd i fatio ar lain oedd yn ddigon anodd i’r bowlwyr.

Ar yr ail fore, roedd enw Northeast eisoes yn y llyfrau hanes fel y chwaraewr cyntaf yn hanes Morgannwg i sgorio canred dwbwl ar gae Lord’s, ond roedd e wedi mynd y tu hwnt i 300 erbyn dechrau’r prynhawn, gyda’i bartner Ingram hefyd yn cyrraedd ei ganred ben draw’r llain.

Ar ei ffordd i 335 heb fod allan, fe gurodd Northeast record Jack Hobbs (316) ar gyfer y sgôr sirol gorau erioed, a 299 oedd cyfanswm partneriaeth Northeast ac Ingram erbyn i Forgannwg gau’r batiad.

Mae Morgannwg wedi cipio 13 pwynt, a byddan nhw’n chwarae gartref am y tro cyntaf y tymor hwn, wrth groesawu Swydd Derby a’u cyn-gapten David Lloyd i Gaerdydd ddydd Gwener (Ebrill 12).

Lord's

Morgannwg yn dechrau’r tymor criced yn Lord’s

Alun Rhys Chivers

Mae nifer o wynebau newydd yn y garfan i herio Middlesex yn y Bencampwriaeth (dydd Gwener, Ebrill 5)