Morgannwg yn dechrau’r tymor criced yn Lord’s

Mae nifer o wynebau newydd yn y garfan i herio Middlesex yn y Bencampwriaeth (dydd Gwener, Ebrill 5)

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Lord's

Cae criced Lord’s

Sgorfwrdd

Bydd Morgannwg yn dechrau’r tymor criced newydd gyda thaith i Lord’s i herio Middlesex heddiw (dydd Gwener, Ebrill 5).

Ynghyd â’r prif hyfforddwr newydd Grant Bradburn, bydd nifer o wynebau newydd yn y garfan – Mir Hamza, y bowliwr cyflym o Bacistan; y bowliwr cyflym Craig Miles, sydd ar fenthyg o Swydd Warwick; y troellwr coes Mason Crane, sydd ar fenthyg o Hampshire, a’r chwaraewr ifanc Asa Tribe o Jersey, sydd eisoes wedi creu argraff wrth chwarae i’r ail dîm ac ar y daith cyn dechrau’r tymor eleni.

Bydd Colin Ingram yn llenwi bwlch y chwaraewr tramor sydd wedi’i adael gan Marnus Labuschagne, fydd yn ymuno â’r garfan fis nesaf.

Ond mae’r batiwr Eddie Byrom a’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten allan ag anafiadau.

‘Cydbwysedd’

“Rydyn ni’n hapus iawn gyda’r tîm a chydbwysedd y tîm sydd gyda ni wrth fynd i mewn i’r gêm yn erbyn Middlesex,” meddai Grant Bradburn.

“Fyddwn ni ddim yn hollol barod, gan ein bod ni ond wedi cael ychydig ddyddiau ar y glaswellt, ond dydyn ni ddim yn dod yn chwaraewyr gwael dros nos am nad ydyn ni wedi cael amser ar y glaswellt.

“Fe wnaethon ni rywfaint o waith gwych dan do.

“Rydyn ni hefyd wedi gwneud gwaith gwych o ran ein prosesau a’n cynlluniau i ennill.

“Mae yna ymdeimlad braf iawn yn y grŵp, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael dechrau ar ein hymgyrch yn erbyn Middlesex yn Lord’s, cartref criced.”

Gemau’r gorffennol

Dyma’r canfed gêm dosbarth cyntaf rhwng Morgannwg a Middlesex.

Cafodd yr ornest gyntaf rhyngddyn nhw ei chynnal yn 1932, gyda’r Saeson yn fuddugol o fatiad a 32 rhediad.

Ers hynny, mae Morgannwg wedi ennill deg gêm, a phump ohonyn nhw yng Nghymru, a phedair yn Lord’s, a’r lllall yn Southgate.

Dyma’r chweched tro i Forgannwg ddechrau’r tymor yn Lord’s, a’r tro cyntaf ers 2009.

Carfan Middlesex: T Roland-Jones (capten), E Bamber, H Brookes, B Cullen, J Davies, J de Caires, L du Plooy, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, S Robson, M Stoneman

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, C Miles, B Root, A Tribe, Zain ul Hassan

17:03

Dyna ni. Y gêm wedi dod i ben yn gyfartal, gyda Morgannwg wedi colli dwy wiced yn eu hail fatiad.

Bydd hon yn gêm i’w chofio ymhen blynyddoedd i ddod!

15:24

Middlesex wedi cyrraedd eu sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed yn Lord’s, gan guro’u 612-8 yn erbyn Swydd Nottingham yn 1921.

15:17

Canred dwbwl dosbarth cyntaf i Ryan Higgins am y tro cyntaf yn ei yrfa. Middlesex 626-8 yn erbyn Morgannwg ar y prynhawn olaf – y Saeson fymryn ar y blaen, ond fawr o ots bellach gyda’r ornest yn tynnu tua’i therfyn. Gêm gyfartal fydd hi.

13:29

Amser cinio yn Lord’s ar y diwrnod olaf, ac mae Ryan Higgins yn dal wrth y llain i Middlesex yn erbyn Morgannwg. Mae e ar 168, gyda’i dîm wedi cyrraedd 546-8 gyda dwy sesiwn o’r ornest yn weddill. Dim gobaith o fuddugoliaeth i’r naill dîm na’r llall erbyn hyn.

11:33

Ar fore ola’r gêm, mae Colin Ingram wedi’i cipio’i wiced gyntaf yn y Bencampwriaeth ers 2022. Daeth honno yn y gêm yn erbyn Swydd Gaerlŷr – pan sgoriodd Sam Northeast 410hfa… Hanes wedi ailadrodd ei hun!

19:21

Middlesex ar ei hôl hi o 160 yn eu batiad cyntaf ar ddiwedd y trydydd diwrnod. Sawl cyfraniad nodedig – Ryan Higgins 127hfa, Mark Stoneman 97, Jack Davies 60, a Max Holden 53.

Braidd yn anochel erbyn hyn mai gêm gyfartal fydd hi ar lain sy’n ffafrio’r batwyr yn fawr iawn.

16:01

Amser te ar y trydydd diwrnod. Middlesex 369-4, ar ei hôl hi o 251 yn erbyn Morgannwg

13:04

Cinio ar y trydydd diwrnod. Middlesex 252-3. Ar ei hôl hi o 368. Bydd cipio wicedi a gorfodi’r Saeson i ganlyn ymlaen yn allweddol i obeithion Morgannwg.

11:57

Max Holden wedi cyrraedd ei hanner canred ar fore rhwystredig i fowlwyr Morgannwg, sydd wedi cipio wiced fawr Mark Stoneman gyda daliad campus i Dan Douthwaite am 97. Middlesex 199-2

18:47

Ar ddiwrnod hanesyddol i Sam Northeast a Morgannwg yn Lord’s, mae Middlesex wedi gorffen yr ail ddiwrnod ar 138-1 – gyda Craig Miles, ar fenthyg o Swydd Warwick, wedi cipio’r wiced.

Yn gynharach, Morgannwg wedi cau eu batiad cyntaf ar 620-3 ar ôl batiad rhagorol Sam Northeast – y sgôr gorau erioed yn Lord’s – 335hfa