Morgannwg yn dechrau’r tymor criced yn Lord’s

Mae nifer o wynebau newydd yn y garfan i herio Middlesex yn y Bencampwriaeth (dydd Gwener, Ebrill 5)

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
Lord's

Cae criced Lord’s

Sgorfwrdd

Bydd Morgannwg yn dechrau’r tymor criced newydd gyda thaith i Lord’s i herio Middlesex heddiw (dydd Gwener, Ebrill 5).

Ynghyd â’r prif hyfforddwr newydd Grant Bradburn, bydd nifer o wynebau newydd yn y garfan – Mir Hamza, y bowliwr cyflym o Bacistan; y bowliwr cyflym Craig Miles, sydd ar fenthyg o Swydd Warwick; y troellwr coes Mason Crane, sydd ar fenthyg o Hampshire, a’r chwaraewr ifanc Asa Tribe o Jersey, sydd eisoes wedi creu argraff wrth chwarae i’r ail dîm ac ar y daith cyn dechrau’r tymor eleni.

Bydd Colin Ingram yn llenwi bwlch y chwaraewr tramor sydd wedi’i adael gan Marnus Labuschagne, fydd yn ymuno â’r garfan fis nesaf.

Ond mae’r batiwr Eddie Byrom a’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten allan ag anafiadau.

‘Cydbwysedd’

“Rydyn ni’n hapus iawn gyda’r tîm a chydbwysedd y tîm sydd gyda ni wrth fynd i mewn i’r gêm yn erbyn Middlesex,” meddai Grant Bradburn.

“Fyddwn ni ddim yn hollol barod, gan ein bod ni ond wedi cael ychydig ddyddiau ar y glaswellt, ond dydyn ni ddim yn dod yn chwaraewyr gwael dros nos am nad ydyn ni wedi cael amser ar y glaswellt.

“Fe wnaethon ni rywfaint o waith gwych dan do.

“Rydyn ni hefyd wedi gwneud gwaith gwych o ran ein prosesau a’n cynlluniau i ennill.

“Mae yna ymdeimlad braf iawn yn y grŵp, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael dechrau ar ein hymgyrch yn erbyn Middlesex yn Lord’s, cartref criced.”

Gemau’r gorffennol

Dyma’r canfed gêm dosbarth cyntaf rhwng Morgannwg a Middlesex.

Cafodd yr ornest gyntaf rhyngddyn nhw ei chynnal yn 1932, gyda’r Saeson yn fuddugol o fatiad a 32 rhediad.

Ers hynny, mae Morgannwg wedi ennill deg gêm, a phump ohonyn nhw yng Nghymru, a phedair yn Lord’s, a’r lllall yn Southgate.

Dyma’r chweched tro i Forgannwg ddechrau’r tymor yn Lord’s, a’r tro cyntaf ers 2009.

Carfan Middlesex: T Roland-Jones (capten), E Bamber, H Brookes, B Cullen, J Davies, J de Caires, L du Plooy, N Fernandes, T Helm, R Higgins, M Holden, S Robson, M Stoneman

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, D Douthwaite, Mir Hamza, J Harris, C Ingram, J McIlroy, C Miles, B Root, A Tribe, Zain ul Hassan

18:47

Ar ddiwrnod hanesyddol i Sam Northeast a Morgannwg yn Lord’s, mae Middlesex wedi gorffen yr ail ddiwrnod ar 138-1 – gyda Craig Miles, ar fenthyg o Swydd Warwick, wedi cipio’r wiced.

Yn gynharach, Morgannwg wedi cau eu batiad cyntaf ar 620-3 ar ôl batiad rhagorol Sam Northeast – y sgôr gorau erioed yn Lord’s – 335hfa

14:37

Sam Northeast 334hfa – y sgôr gorau erioed ar gae Lord’s, gan drechu Graham Gooch (333)

Northeast 335hfa ac Ingram 132hfa, wrth i Forgannwg gau’r batiad ar 620-3. Partneriaeth o 299.

14:26

Mae Northeast wedi cyrraedd y sgôr gorau erioed mewn gêm sirol ar gae Lord’s, gan guro Jack Hobbs (316). Graham Gooch 333 (mewn gêm brawf) yw’r targed nesaf.

13:02

300 i Northeast a chanred i Ingram. Morgannwg 558-3

12:42

250 i Northeast cyn cinio, a Morgannwg yn adeiladu blaenoriaeth swmpus ar ôl colli allan ar y pwynt batio olaf. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw chwaraewr sgorio canred dwbwl i Forgannwg ar y cae hanesyddol hwn.

18:48

Diwedd y diwrnod cyntaf: 

Morgannwg 370-3 (Northeast 186hfa), Carlson (77), Root (67)

Y canred cyntaf i chwaraewr o unrhyw sir yn y Bencampwriaeth y tymor hwn i gapten newydd Morgannwg, sydd wedi cyrraedd y garreg filltir o 20,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa. Mae’r sir Gymreig mewn sefyllfa gref ar ôl cael eu gwahodd i fatio.