Mae Sophie Ingle, capten tîm pêl-droed merched Cymru, wedi cyhoeddi ei bod hi am ildio’r gapteniaeth.

Daw ei chyhoeddiad ar drothwy’r gêm ragbrofol Ewro 2025 yn erbyn Cosofo nos Fawrth (Ebrill 9).

Jess Fishlock fydd yn gapten ar gyfer y gêm honno, wrth iddi ennill cap rhif 150 dros Gymru.

Dywed Sophie Ingle mai nawr yw’r amser cywir iddi gamu o’r neilltu, a hithau wedi bod yn y rôl ers Chwefror 2015 pan oedd hi’n 23 oed.

Bu’n gapten o dan reolaeth Jayne Ludlow a Gemma Grainger.

“Dw i jyst yn meddwl mai dyma’r amser cywir i fi ac i’r tîm wrth symud ymlaen fy mod i’n pasio band y capten yn ei flaen,” meddai Sophie Ingle.

“Wir i chi, bu’r rhain yn naw mlynedd gorau fy mywyd yn cynrychioli fy ngwlad ac arwain y criw yma o ferched allan.

“Ond dw i’n credu mai dyma’r amser iawn, wrth fynd i mewn i’r ymgyrch newydd, ac mae gennym ni arweinwyr ar draws y tîm hwn.

“Dw i’n credu ei bod hi’n briodol ei basio ymlaen i rywun arall a gadael iddyn nhw brofi’r hyn dw i wedi’i brofi dros y naw mlynedd diwethaf.

“Dw i eisiau iddyn nhw brofi popeth wnes i ei brofi, yr uchelfannau, yr iselfannau a’r arweinyddiaeth ddaw gyda hynny, a’r cyfrifoldeb sy’n dod iddyn nhw nawr o fod yn gapten Cymru.”