Mae Caryl Thomas, sydd wedi’i phenodi’n Arweinydd Cymunedol ar gyfer gêm y merched gan Undeb Rygbi Cymru, yn dweud ei bod hi eisiau “meithrin talentau’r genhedlaeth nesaf” o chwaraewyr.

Mae’r siaradwr Cymraeg yn dod i Sir Gaerfyrddin, ac mae ganddi dros ddau ddegawd o brofiad o weithio ym maes datblygu chwaraeon, rheoli a chynnydd cymdeithasol drwy’r byd chwaraeon.

A hithau wedi gweithio ar draws y wlad, mae ei gwaith yn golygu ei bod hi wedi hyfforddi rygbi menywod ar lawr gwlad, yn ogystal â datblygu strategaethau a phartneriaethau ledled de-orllewin Lloegr.

Mae hi’n gadael ei rôl gyda Sefydliad Cymunedol Clwb Rygbi Caerfaddon i ddechrau ar ei swydd newydd, gan ddychwelyd i Gymru.

Gyrfa ddisglair a chyfle anhygoel

Cynrychiolodd Caryl Thomas dîm Cymru ddiwethaf yn eu buddugoliaeth yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, lle hawliodd Cymru eu lle yng nghystadleuaeth y WXV1 yn Seland Newydd.

Fe enillodd y prop rhyngwladol 65 o gapiau rhwng 2006 a 2023, cyn penderfynu ymddeol o’r gamp.

Mae hi wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd bedair gwaith.

Cafodd Caryl Thomas ei phenodi’n rhan o’r tîm sy’n hyrwyddo’r gamp yn y gêm gymunedol, ar ôl proses gyfweld drylwyr.

Y disgwyl yw y bydd ei phenodiad yn un allweddol.

“Mae’n freuddwyd cael y cyfle i wneud y swydd yma”, meddai, wrth sôn am ei chyffro ac angerdd am y gamp.

Esbonia ei bod hi’n edrych i’r dyfodol, ac yn gosod targedau cadarn i dwf y gamp yng nghyd-destun y gêm gymunedol, gyda rygbi’n galon y genedl.

Y genhedlaeth nesaf

“Mae’n hynod o bwysig ein bod yn creu’r cyfleoedd i ferched godi pêl neu fod yn rhan o dîm,” meddai Caryl Thomas, gan awgrymu bod angen sicrhau llwybrau addas i ferched fentro heb rwystrau.

Dyma fyddai’n “meithrin talentau’r genhedlaeth nesaf”, sydd yn rhywbeth hollbwysig i ddatblygiad y gêm, meddai.

O ran cynulleidfa darged, merched wyth i ddeunaw oed fydd canolbwynt y bartneriaeth rhwng ysgolion, hybiau a’r Undeb, a hynny er mwyn cynyddu’r niferoedd sy’n chwarae rygbi.

Fodd bynnag, mae Caryl Thomas yn dweud ei bod hi am ymweld â merched mewn ysgolion er mwyn clywed ganddyn nhw eu hunain am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu yn y byd chwaraeon.

“Bydd rôl Caryl yn hollol allweddol i strategaeth yr Undeb wrth i ni arwain y twf yng ngêm y merched a’r menywod yma yng Nghymru”, meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi.