Cymru 4-0 Croatia: Rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru’n cymryd yr awennau am y tro cyntaf

Mae Rhian Wilkinson wrth y llyw am y tro cyntaf ar gyfer gêm ragbrofol gyntaf Ewro 2025 yn erbyn Croatia yn Wrecsam

gan Laurel Hunt
Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Rhian Wilkinson

Bydd Rhian Wilkinson, rheolwr newydd tîm pêl-droed menywod Cymru, yn cymryd yr awenau am y tro cyntaf heno wrth i Gymru wynebu Croatia ar y STōK Cae Ras yn Wrecsam.

Bydd gêm ragbrofol gyntaf Ewro 2025 yn dechrau am 7.15yh.

Bydd Cymru, Croatia, Wcráin a Chosofo yn cystadlu am y tri safle uchaf yn eu grŵp, er mwyn symud ymlaen i’r gemau ail gyfle yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ond dydy Rhian Wilkinson, sy’n enedigol o Ganada ond â gwreiddiau Cymreig, ddim yn poeni am y pwysau o fod yn hyfforddwraig newydd.

“Os ydym yn chware i’r potensial dw i’n gwybod ein bod ni’n gallu, byddwn ni’n dîm llwyddiannus iawn,” meddai.

A hithau wedi chwarae 183 o weithiau dros Ganada yn ystod ei gyrfa ddisglair, mae olynydd Gemma Grainger wedi bod yn siarad yn agored am ei barn am y garfan.

O ran ei phenderfyniad i gynnwys pump o chwaraewyr ifainc yn ei charfan o 28 chwaraewr, esbonia ei bod am iddyn nhw “deimlo mai eu tîm nhw” yw hwn.

Mae hi’n dweud ei bod hi’n gofyn i’r aelodau ifainc yn y garfan fod “yn ddewr”.

Carreg filltir i Jess Fishlock

O ran aelodau hŷn y tîm, Jess Fishlock fydd y chwaraewr cyntaf yn hanes Cymru i gyrraedd 150 o gapiau pe bai hi’n chwarae yn y gêm heno a’r gêm yn erbyn Cosofo ddydd Mawrth (Ebrill 9).

Wedi ei hymddangosiad cyntaf yn ei harddegau yn erbyn y Swistir yn 2006, mae hi wedi cael ei galw’n “eiconig” a “chwaraewr arbennig” gan Rhian Wilkinson.

Cymru’n cynrychioli gwlad gyfan

Mae Rhian Wilkinson yn awyddus i fynd â’i thîm o amgylch y wlad, ac wedi mynegi ei hawydd am gefnogaeth tu hwnt i Gaerdydd.

Mae hi eisiau “clywed egni a sŵn” yn rhywle heblaw’r brifddinas, meddai.

Fe wnaeth y tîm dorri record y dorf ar gyfer gemau rhyngwladol menywod Cymru, drwy ddenu dros 15,000 o gefnogwyr ar gyfer eu buddugoliaeth yn y rownd gyn-derfynol dros Bosnia a Herzegovina ym mis Hydref 2022.

Bydd Cymru’n gobeithio denu’r un math o dorf, os nad rhagor.

Fel Cymru, dydy Croatia na Chosofo erioed wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol prif dwrnament menywod, felly mae disgwyl cystadleuaeth ffyrnig dros yr wythnosau nesaf.

21:21

Cymru 4-0 Croatia.

Dwy gôl i Jess Fishlock wrth dorri record capiau Cymru gyda rhif 149.

Gôl yr un i Rachel Rowe ac Angharad James, a’r dechrau perffaith i Rhian Wilkinson a Chymru.

18:55

Dilynwch y cyfan ar dudalen X Cymru neu ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.