Peth digon anarferol yw sôn am ddiweddglo cyffrous ar bedwerydd diwrnod prawf criced sydd i fod i bara pum niwrnod, ond dyna’r sefyllfa yn y Swalec SSE yn y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw.
Gallai buddugoliaeth yng Nghaerdydd osod y seiliau ar gyfer gweddill y gyfres i’r naill dîm a’r llall, ond mae Awstralia’n gwybod fod rhaid iddyn nhw greu hanes er mwyn rhoi eu hunain ar y droed flaen.
Pe baen nhw’n llwyddo i sgorio’r 412 rhediad sydd eu hangen i ennill, fe fydden nhw’n torri’r record am y cyfanswm uchaf sydd erioed wedi cael ei gwrso yn hanes Cyfres y Lludw – a’r trydydd cyfanswm uchaf yn hanes gemau prawf. Byddai’n dipyn o gamp i guro ymdrechion Bradman a’i dîm i gyrraedd 404 yn Headingley yn 1948. Mae treigl amser yn golygu mai dau yn unig o’r tîm hwnnw sy’n dal ar dir y byw heddiw.
Er bod llygaid y byd yn anochel yn mynd i fod ar ymdrechion Awstralia dros y deuddydd nesaf, mae Lloegr dan bwysau hefyd gan fod rhaid iddyn nhw ennill y gyfres er mwyn adennill y Lludw – dydy cyfres gyfartal yn dda i ddim. Pwy feiddiodd ddweud fod criced yn gêm ddiflas?!
Os oedd Awstralia’n teimlo’r pwysau ddoe, mae’n sicr eu bod nhw’n teimlo’n well eu byd heddiw ar ôl clywed y digyffelyb Geoffrey Boycott yn dweud nad oes ganddyn nhw obaith caneri o gyrraedd y nod. Os oedd angen hwb ar Awstralia, dyna’i roi iddyn nhw mewn un frawddeg fach ffwrdd-â-hi.
Mae’r dasg sy’n wynebu Lloegr yn syml – cipio deg wiced. Mae Awstralia eisoes wedi awgrymu na fyddan nhw’n rhuthro i gyrraedd y nod. Wedi’r cyfan, mae ganddyn nhw 180 o belawdau dros y deuddydd nesaf i sgorio’r rhediadau. Fel dywedodd y troellwr Nathan Lyon, does dim pwyntiau bonws am gyfradd sgorio gyflym. Ond rhaid dweud hefyd fod cipio wicedi cynnar yn hanfodol i Loegr – mae gan yr Awstraliaid ddawn am fod yn amyneddgar a gwasgu eu gwrthwynebwyr mewn brwydrau dros gyfnod hir o amser.
Co ni off!