Mae disgwyl i Ranbarth Prifddinas Caerdydd gael hwb o £24 miliwn yn ystod y flwyddyn wrth i’r Swalec SSE yn cynnal y prawf cyntaf yng Nghyfres y Lludw.
Mae ymchwil gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Mandix Consultancy wedi dangos y cyfraniad sylweddol all criced rhyngwladol a digwyddiadau cysylltiedig ei wneud i economi rhanbarth, gyda chyfraniad blynyddol arferol o £19 miliwn. Ond mae ychwanegu prawf cyntaf Cyfres Investec y Lludw yn 2015 yn golygu bod criced yn debygol o roi hwb ychwanegol o £5 miliwn i economi’r rhanbarth.
Athro Entrepreneuriaeth Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Brian Morgan arweiniodd y prosiect oedd wedi archwilio maint torfeydd a gwariant y Swalec SSE dros 15 mlynedd rhwng 2000 a 2014, gan ddefnyddio’r ffigurau i amcangyfrif yr effaith flynyddol uniongyrchol ac anuniongyrchol ar gyfartaledd ar y stadiwm.
“Nid yn unig y mae criced rhyngwladol yng Nghaerdydd yn helpu i hybu’r ddinas i gynulleidfa deledu fyd-eang o filiynau o bobol, ond mae hefyd yn cael effaith unionsyth ac uniongyrchol ar economi Rhanbarth Prifddinas Caerdydd,” meddai.
“Mae cyfraniad o £19 miliwn i economi’r rhanbarth bob blwyddyn, gan gynnal 230 o swyddi, yn ei wneud yn gyfrannwr sylweddol ond ni ddylid tanbrisio’i bwysigrwydd wrth ddenu nifer fawr o ymwelwyr o’r tu allan i Gymru – yn enwedig o’i ystyried ochr yn ochr â’r prif leoliadau a digwyddiadau eraill sydd gan Gaerdydd a Chymru i’w cynnig.
“Roedd ein hymchwil wedi ystyried y gwariant uniongyrchol oedd yn deillio o’r gemau, y gwariant anuniongyrchol a chymelledig ynghyd â’r gadwyn gyflenwi i’r Stadiwm; ac yn olaf, gwariant oddi ar y safle gan ymwelwyr sydd wedi teithio i Gaerdydd i fynychu’r digwyddiadau hyn.
“Mae’r ymchwil yn awgrymu bod y Swalec SSE wedi ymsefydlu fel lleoliad rhyngwladol mawr ac mae’r digwyddiadau y mae’n eu cynnal yn gwneud cyfraniad sylweddol i gefnogi swyddi a dod â miliynau o bunnoedd i economi Cymru.”
Mae buddiant digwyddiad chwaraeon i economi rhanbarth yn dibynnu ar y math o ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal. Y Gemau Olympaidd sy’n cael yr effaith fwyaf ond un categori ymhlith digwyddiadau sy’n denu cynulleidfaoedd mawr, fel sy’n cael ei grybwyll gan y Cyngor Chwaraeon a chyrff eraill fel un sy’n cael effaith economaidd sylweddol ac sy’n denu sylw’r cyfryngau, yw Cyfres y Lludw yng Nghaerdydd.
Mae’r Swalec SSE yn rhoi’r gallu i Gaerdydd a Chymru gynnal gemau criced rhyngwladol mawr sy’n creu hwb economaidd yn y llif refeniw parhaus y mae’r stadiwm yn ei greu drwy ddenu gemau mawr, cynnal gemau sirol a chynnig lleoliad ar gyfer cynadleddau ac achlysuron cymdeithasol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Ers i’r gatiau ail-agor ym mis Mai 2008, yn dilyn adfywiad gwerth £12 miliwn, mae’r Swalec SSE wedi cynnal dwy gêm brawf, wyth gêm undydd ryngwladol, pum gêm yn Nhlws Pencampwyr yr ICC, a diwrnod Ffeinals y T20, ynghyd â 281 diwrnod o griced sirol.
Mae’r manteision economaidd i Ranbarth Prifddinas Caerdydd wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i adfywio’r stadiwm, oedd wedi arwain at gynnal criced rhyngwladol. Cyn 2008, roedd y trosiant blynyddol ar gyfartaledd yn yr hen gae yn llai na £3 miliwn y flwyddyn, sydd wedi cynyddu ers hynny i drosiant ar gyfartaledd o £7.7 miliwn, gan godi ar ei orau i £11 miliwn.
Ers 2008, mae nifer y gemau mawr wedi cynyddu ac mae’r gemau hyn yn aml wedi gwerthu allan. Ar gyfartaledd, mae’r Swalec SSE yn denu mwy na 200,000 o gefnogwyr criced bob blwyddyn o’i gymharu â llai na 100,000 cyn 2008. Yn y saith mlynedd ers agor, mae cefnogwyr criced wedi treulio bron i 1.5 miliwn o ddiwrnodau yn mynychu gemau. Mae mwy na 250,000 o bobol wedi mynychu digwyddiadau a gafodd eu cynnal ar ddiwrnodau pan nad oedd gemau.
Tra bod gwerth economaidd gweithgarwch ar safle’r Swalec SSE wedi’i amcangyfrif i fod oddeutu £7.7 miliwn y flwyddyn i Gaerdydd, mae gweithgarwch oddi ar y safle hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol ac yn ei wneud yn economaidd nerthol – yn enwedig o’i gyfuno gyda chodi proffil rhyngwladol Caerdydd a Chymru trwy gynnal prawf y Lludw.
Mae oddeutu 50% o ymwelwyr â digwyddiadau rhyngwladol mawr yn dod o’r tu allan i Ranbarth Prifddinas Caerdydd ac mae cymaint â 35% yn aros dros nos. Mae hyn yn golygu £15 miliwn ychwanegol o weithgarwch oddi ar y safle, sy’n arwain at gyfraniad GVA o oddeutu £8 miliwn a 120 o swyddi.
Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Rydym yn falch o fod wedi gallu denu digwyddiadau criced byd eang i brifddinas Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae chwarae prawf cyntaf Lludw Investec 2015 yng Nghaerdydd yn ein galluogi ni i gynnig achlysur chwaraeon gwirioneddol fyd-eang y gall cefnogwyr ei fwynhau nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd.
“Mae’r Swalec SSE yn denu digwyddiadau mawr i Ranbarth Prifddinas Caerdydd – digwyddiadau sy’n gallu helpu i gynnal nifer o swyddi yn y sector lletygarwch a thwristiaeth.
“Rydym wedi cadarnhau pecyn o gemau mawr hyd at 2019 sy’n cynnwys Tlws Pencampwyr yr ICC yn 2017 a Chwpan Criced y Byd yr ICC yn 2019, ac rydym yn parhau’n hollol ymrwymedig i gynyddu effaith economaidd criced ac ar yr un pryd, dod â manteision criced i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”
Martyn Bicknell