Mae Morgannwg wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer eu taith i Chelmsford i herio Eryr Swydd Essex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 nos Wener.

Mae’r bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan yn ôl o’i famwlad yn dilyn genedigaeth ei blentyn.

Yn ymuno â Hogan yn y garfan mae’r batiwr ifanc David Lloyd a’r bowliwr ifanc Tom Helm sydd ar fenthyg o Swydd Middlesex.

Does dim lle yn y garfan, felly, i’r batiwr Stewart Walters, y chwaraewr amryddawn ifanc Ruaidhri Smith na’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg.

Mae Wagg wedi anafu ac mae disgwyl iddo fod allan am hyd at bythefnos.

Enillodd y ddau dîm eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth eleni, wrth i Forgannwg drechu Swydd Hampshire o 10 rhediad yn Southampton, ac roedd yr ‘Eryr’ yn fuddugol yn erbyn Swydd Middlesex yn Lord’s ddydd Sadwrn diwethaf.

Graham Wagg a Jim Allenby oedd sêr yr ornest yr wythnos diwethaf.

Hon yw trydedd ornest Morgannwg yn y gystadleuaeth hon yn Chelmsford, lle bu’r Cymry’n fuddugol ar un achlysur.

Dydy Morgannwg erioed wedi curo Swydd Essex yng Nghaerdydd mewn gornest ugain pelawd ychwaith.

Byddai buddugoliaeth nos yfory’n golygu bod Morgannwg yn dychwelyd i Stadiwm Swalec yn ddi-guro ar gyfer eu gornest yn erbyn Swydd Sussex nos Wener nesaf.

Rhwng y ddwy ornest undydd, fe fydd Morgannwg yn croesawu Swydd Gaerlŷr i Gaerdydd ar gyfer gêm yn ail adran y Bencampwriaeth, sy’n dechrau ddydd Sul.

Carfan Morgannwg: J Allenby (capten), J Rudolph, M Wallace, M Goodwin, C Cooke, B Wright, D Lloyd, A Salter, W Owen, D Cosker, M Hogan, T Lancefield, T Helm.

Carfan Eryr Swydd Essex: M Pettini (capten), J Ryder, T Westley, B Foakes, J Foster, G Smith, J Mickleburgh, K Velani, Tanweer Sikander, M Salisbury, R Topley, M Panesar