David Moyes
Mae Heddlu Swydd Gaerhirfryn yn ymchwilio i honiadau bod cyn-reolwr Man U, David Moyes wedi ymosod ar ddyn 23 oed mewn bar.

Yn ôl adroddiadau, roedd ffrwgwd mewn bar yn nhref Clitheroe toc wedi 10yh neithiwr.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael eu galw i’r bar, ond nid oedd angen triniaeth feddygol ar y dyn 23 oed.

Yn ôl y wasg leol, roedd Moyes wedi bod allan yn yfed gyda ffrind pan ddigwyddodd y ffrwgwd.

Dydy bar Emporium yn Clitheroe ddim wedi gwneud sylw am y digwyddiad.

Collodd Moyes ei swydd fel rheolwr Man U fis diwethaf, ac mae’r Albanwr wedi’i gysylltu â swydd rheolwr Glasgow Celtic heddiw, yn dilyn ymddiswyddiad Neil Lennon.