Jamie Donaldson
Fe fydd y Cymro Jamie Donaldson yn taro’i ergyd gyntaf ym Mhencampwriaeth y PGA yn Wentworth amser cinio.

Fe fydd e’n camu i’r cwrs ochr yn ochr â’r Gwyddel Rory McIlroy a’r gŵr o Dde Affrica, Ernie Els.

Mae disgwyl i lygaid y byd fod ar McIlroy, ddiwrnod yn unig ar ôl i’r newyddion ledu bod ei berthynas e a’i gariad, y chwaraewraig tenis Caroline Wosniacki wedi dod i ben.

Pe bai Donaldson yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth hon, fe allai sicrhau ei le yn nhîm Ewrop ar gyfer Cwpan Ryder.

Mae’r Cymro arall yn y gystadleuaeth, Liam Bond o Gas-gwent eisoes ar y cwrs, wedi iddo ddechrau am 10.30 y bore ma.

Thomas Bjorn gafodd y gorau o’r chwarae’r bore ma wrth arwain y rownd gyntaf.

Mae Bjorn ddeg ergyd yn well na’r safon ar ddechrau’r deunawfed twll wedi iddo orffen y naw twll cyntaf mewn 32 ergyd, cyn gorffen tri thwll yn y naw olaf un ergyd yn well na’r safon.

Mae nifer o’r chwaraewyr a’u timau’n gwisgo du heddiw er cof am y cadi Iain McGregor fu farw yn ystod cystadleuaeth agored Ynysoedd Madeira yn gynharach yn y mis.