Bydd Aaron Ramsey'n cael cyfle i orffwys
Bydd llawer o’r chwaraewyr arferol yng ngharfan Cymru yn cael eu gadael ar ôl pan fydd y tîm yn teithio i’r Iseldiroedd oherwydd eu bod angen gorffwys, yn ôl y rheolwr Chris Coleman.

Fe gyhoeddodd Coleman y garfan fydd yn teithio i Amsterdam ym mis Mehefin heddiw, gyda hyd at chwech o’r amddiffynwyr rheolaidd yn absennol.

Yn ogystal â hynny fe gadarnhaodd Coleman fod y golwr Boaz Myhill wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol a hynny am resymau teuluol.

Aaron Ramsey fydd un o’r rheiny fydd yn methu’r trip i Amsterdam fis nesaf, gyda thîm rheoli Cymru wedi penderfynu gorffwys y cyn-gapten yn dilyn nifer o anafiadau yn ystod y tymor.

“Y broblem yw ei fod o wedi cael yr un anaf, dro ar ôl tro ar ôl y Nadolig,” esboniodd Coleman. “Roeddem ni’n teimlo ei fod o angen gorffwys da dros yr haf, er mwyn osgoi anafiadau ar gychwyn tymor nesaf, ac ar gychwyn ein hymgyrch ni yn y gemau rhagbrofol.

“Wrth gwrs, rydym ni’n well tîm pan mae Rambo yn rhan o’r garfan, ond doeddem ni, Aaron nag Arsenal eisiau cymryd unrhyw risg. Mae’n bwysig ein bod ni yn ei warchod.”

Mae Ashley Williams a Ben Davies hefyd am fethu’r daith i’r Iseldiroedd oherwydd anafiadau a gawsant ar ddiwedd y tymor.

Mae absenoldeb Williams o’r garfan hefyd yn golygu bod angen i Coleman benodi capten newydd ar gyfer y gêm.

“Dwi wedi penderfynu pwy fydd y capten, er bod o ddim yn gwybod hynny eto,” datgelodd Coleman. “Mae’n siomedig fod chwaraewyr fel Ashley Williams, Ramsey a James Collins yn absennol ond mi fydd ‘na gapten arall a byddwn ni’n cael sgwrs yn fuan am hynny.”

Capiau cyntaf?

Mae nifer o wynebau newydd hefyd yn y garfan gan gynnwys James Chester, Paul Dummett a Tom Lawrence.

Fe sgoriodd Chester dros Hull yn ffeinal Cwpan FA yn erbyn Arsenal benwythnos diwethaf, ac er bod ei reolwr, Steve Bruce, wedi gofyn i orffwyso’r amddiffynnwr, mae Coleman yn wedi ei gynnwys ar y daith i Amsterdam.

“Fe wnes i siarad gyda Steve  Bruce a James yn ystod yr wythnos,” meddai Coleman. “Os oes problem gydag anaf, fydd o ddim yn chwarae.

“Mae’n aelod newydd i’r garfan, sydd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair, felly mi fydd o’n gwella’r garfan.”

Fe wnaeth Tom Lawrence, a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Manchester United ar ddiwedd y tymor, fethu gêm y tîm dan-21 yn erbyn Lloegr yn ystod yr wythnos yn dilyn anaf, ond mae Coleman yn hyderus y bydd ar gael i’r gêm yn erbyn yr Iseldiroedd.

“Fe wnaeth Tom fethu’r gêm dan-21, ond ar ôl siarad gyda Manchester United, rydym ni’n credu y bydd o’n iawn i ymuno gyda’r garfan.

“Mae’n grêt ei fod wedi gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Manchester United, a byddai Ryan [Giggs] heb ei gynnwys petai hynny wedi lleihau’r cyfle o ennill y gêm yn erbyn Hull.”