Boaz Myhill
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cadarnhau fod y golwr Boaz Myhill wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Wrth gyhoeddi ei garfan ar gyfer y gêm yn erbyn yr Iseldiroedd heddiw fe ddywedodd Coleman ei bod hi’n bechod fod Myhill wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, ond ei fod yn derbyn hynny.

Mae’n golygu mai Wayne Hennessey yw’r unig golwr yng ngharfan Cymru sydd wedi chwarae dros ei wlad, gydag Owain Fôn Williams a Connor Roberts hefyd wedi’u henwi.

“Fe wnes i drafod hynny gyda Boaz yn y camp diwethaf,” meddai rheolwr Cymru Chris Coleman.

“Dyw pêl-droed rhygnwladol ddim yn apelio at bawb. Weithiau mae well gan y chwaraewyr dreulio amser gyda’u teuluoedd, yn hytrach na dod i ffwrdd am ddeg diwrnod gyda ni a dyna oedd penderfyniad Boaz.

“Rydym yn siomedig gyda hynny, gan ei fod o wedi bod yn ran pwysig o’r garfan, ond rydym yn dymuno’r gorau iddo yn y dyfodol.”

Bu adroddiadau nôl yn yr Hydref fod Myhill yn ystyried ei ddyfodol gyda’r tîm rhyngwladol ar ôl i Hennessey gymryd ei le yn y tîm.

Newydd ddychwelyd o anaf oedd Hennessey ar y pryd, ac yn chwarae i Yeovil yn y Bencampwriaeth, tra bod Myhill yn cael rhediad yn y gôl i West Brom yn yr Uwch Gynghrair.

Fe enillodd Myhill ei gap cyntaf dros Gymru yn 2008, ar ôl gwrthod y cyfle oherwydd rhesymau teuluol ddwy flynedd ynghynt.

Fe aeth y golwr 31 oed, a gafodd ei eni yng Nghaliffornia a hefyd yn gymwys i chwarae dros Loegr, ymlaen i ennill 19 cap dros Gymru.