James Chester
Mae James Chester wedi’i enwi yng ngharfan Cymru i wynebu’r Iseldiroedd yn Amsterdam yn eu gêm gyfeillgar ar 4 Mehefin.
Yn ôl adroddiadau ar ddechrau’r mis roedd amddiffynnwr Hull, sydd yn enedigol o Warrington, wedi penderfynu cynrychioli Cymru gan fod ganddo fam o’r Rhyl.
Ac ar ôl gwella’n sydyn o anaf i chwarae dros Hull yn ffeinal Cwpan yr FA – pan sgoriodd y gôl agoriadol – cafwyd cadarnhad heddiw y bydd hefyd ar gael i Gymru.
Ond nid yw chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey – a sgoriodd gôl fuddugol y ffeinal honno – wedi’i gynnwys er mwyn rhoi cyfle iddo orffwys.
Dyw Boaz Myhill hefyd ddim yn y garfan ar ôl i reolwr Cymru Chris Coleman gadarnhau ei fod wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Mae nifer o’r amddiffynwyr rheolaidd hefyd yn cael eu gorffwys gan gynnwys Ashley Williams, James Collins, Ben Davies, Chris Gunter, Sam Ricketts ac Adam Matthews.
Ond mae Coleman wedi cynnwys y golwr ifanc Connor Roberts, ymosodwr dan-21 Cymru Tom Lawrence, a chwaraewyr mwy profiadol sydd yn dychwelyd i’r garfan gan gynnwys Owain Tudur Jones, David Vaughan a Lewin Nyatanga.
Mae Gareth Bale hefyd wedi’i enwi yn y garfan, er bod amheuon ar hyn o bryd dros ffitrwydd Bale cyn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn.
Hefyd yn y garfan mae Paul Dummett, amddiffynnwr Newcastle sydd wedi ymddangos i dîm dan-21 Cymru ond heb ennill cap llawn eto.
Gallai Roberts, Chester, Lawrence ac Owain Fôn Williams ennill eu capiau cyntaf dros Gymru petai nhw’n dod i’r maes yn Amsterdam.
Hon yw gêm gyfeillgar olaf Cymru cyn iddyn nhw ddechrau ar eu hymgyrch Ewro 2016 ym mis Medi yn erbyn Andorra.
Ar y llaw arall, hon fydd gêm olaf yr Iseldiroedd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan y Byd ym Mrasil, ble byddwn nhw’n wynebu Sbaen, Chile ac Awstralia yng Ngrŵp B.
Carfan Cymru: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Connor Roberts (Cheltenham), Owain Fôn Williams (Tranmere)
Danny Gabbidon (Crystal Palace), James Chester (Hull), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Richards (Abertawe), Paul Dummett (Newcastle), Declan John (Caerdydd), Lewin Nyatanga (Barnsley)
Joe Allen (Lerpwl), Emyr Huws (Man City), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Jack Collison (West Ham), Jonathan Williams (Crystal Palace), Owain Tudur Jones (Hibernian), Tom Lawrence (Man United), David Vaughan (Sunderland)
Gareth Bale (Real Madrid), Hal Robson-Kanu (Reading), Simon Church (Charlton), Jermaine Easter (Millwall)