Mae’r chwaraewraig hoci Xenna Hughes, sy’n ferch i gyn-chwaraewr pêl-droed Cymru Mark Hughes, wedi cael ei henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

Mae Hughes, a wnaeth ei hymddangosiad cyntaf i Gymru yn 2012 ac sy’n astudio ym Mhrifysgol Birmingham ar hyn o bryd, wedi ennill 23 o gapiau i Gymru.

Mae’r garfan, sy’n cynnwys 16 chwaraewraig, yn cynnwys pump a ymddangosodd yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010 sef Capten y tîm Abi Welsford, yr is-gapten Leah Wilkinson, yr amddiffynwraig Kat Budd, y chwaraewraig canol cae Alys Brooks a’r ymosodwraig Emma Batten.

Carfan Cymru

Gôl-geidwad – Ria Male

Amddiffynwyr – Elie Barnes, Jo Westwood, Kat Budd, Leah Wilkinson a Xenna Hughes.

Canol cae – Alys Brooks, Beth Bingham, Carys Tucker, Danielle Jordan, Sarah Jones, Sian French ac Abi Welsford.

Ymosodwyr – Emma Batten, Phoebe Richards, Eloise Laity.