Hallam Amos
Ni fydd cefnwr/asgellwr y Dreigiau, Hallam Amos, yn rhan o garfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer herio De Affrica mis nesaf.
Fe wnaeth y chwaraewr 19 oed ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn Tonga, Hydref diwethaf ond mi fydd yn cael llawdriniaeth ar ei ysgwydd yfory.
Cafodd y chwaraewr ei enwi yng ngharfan y Probables ar gyfer y gêm dreial a fydd yn cael ei gynnal wythnos nesaf yn y Stadiwm Liberty. Gall ei gyd-chwaraewr rhanbarthol Tom Prydie sydd wedi cael ei gynnwys yn nhîm y Possibles ar gyfer yr wythnos nesaf cymryd lle Amos yn nhîm y Probables.