Tim pel-droed Ysgol Dewi Sant Llun: Steffan Hughes
Cafodd tîm pêl-droed Ysgol Dewi Sant ddiwrnod i’w gofio ddydd Mawrth wrth iddyn nhw gynrychioli CPD Abertawe mewn twrnament fawr yn yr Etihad, Manceinion.

Cafodd Tîm yr Wythnos golwg360 eu dewis i gynrychioli’r Elyrch ar ôl ennill twrnament lleol, gan olygu eu bod nhw’n un o’r ugain tîm fu’n cystadlu yn stadiwm pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr, Man City, yr wythnos hon.

Yn anffodus ni lwyddodd y tîm i gyrraedd y rowndiau terfynol, gyda dim ond enillydd pob grŵp o bump yn cyrraedd rownd y pedwar olaf.

Fe ddechreuodd Dewi Sant gyda buddugoliaeth o 2-0 yng ngêm gyntaf eu grŵp yn erbyn West Brom, gan ennill 2-0 diolch i ddwy gôl gan Joni Hartson – os ydi’r enw’n gyfarwydd i chi, mae’n dilyn ôl traed ei dad oedd hefyd yn ymosodwr o fri!

Yn anffodus colli 3-1 oedd hanes eu dwy gêm nesaf, yn gyntaf i Crystal Palace ac yna i Newcastle.

Ond fe orffennon nhw gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Arsenal er mwyn gorffen eu grŵp ar nodyn mwy calonogol.

Ac yn ogystal â mwynhau cael chwarae ar faes enwog yr Uwch Gynghrair a throedio’r un cae a sêr megis Yaya Toure, Vincent Kompany a Sergio Aguero, daeth ymwelydd adnabyddus arall i’w gweld.

Pwy ddaeth i lawr i wylio bechgyn Dewi Sant ond seren Man City a Chymru, Emyr Huws – a oedd, wrth gwrs, yn gyn-ddisgybl yn Ysgol y Strade, Llanelli, ble bydd criw ifanc yma’n mynd y flwyddyn nesaf.

Felly diwrnod cyffrous iawn i’r bechgyn ar y cyfan – a phwy a ŵyr, efallai bod yr Emyr Huws nesaf eisoes wedi cael blas ar bethau’r wythnos hon!

Os hoffech chi gael sylw i’ch tîm chwaraeon ar ein heitem Tîm yr Wythnos, cysylltwch â ni!