Mae Caerdydd wedi cryfhau eu hymosod ar gyfer y tymor nesaf ar ôl cadarnhad y bydd yr ymosodwr Javi Guerra’n ymuno â’r clwb yn yr haf.

Fe basiodd y Sbaenwr brawf meddygol yr wythnos hon ar ôl misoedd o sôn fod Caerdydd ar ei ôl, ac mae bellach wedi arwyddo cytundeb o dair blynedd gyda’r clwb.

Bydd y gŵr 32 oed yn ymuno â chlwb y brifddinas am ddim ar ôl i’w gytundeb yn Real Valladolid ddod i ben.

Mae’n dilyn cyfnod ffrwythlon iawn i’r ymosodwr gyda’r clwb o Sbaen, pan sgoriodd 72 gôl mewn 149 gêm yn ystod ei bedair blynedd yno.

Fel Caerdydd, disgyn oedd hanes Valladolid y tymor hwn hefyd ar ôl gorffen yn 19eg yn La Liga er gwaethaf pymtheg gôl Guerra’r tymor hwn.

Dechreuodd ei yrfa gydag Espanyol a bu hefyd yn chwarae i dîm ‘B’ Valencia yn ogystal â chlybiau Granada, Mallorca, Alaves a Levante cyn ymuno â Valladolid.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am y croeso cynnes rwyf wedi cael yma yng Nghaerdydd ac yn edrych ymlaen at fy her newydd yng Nghymru,” meddai Guerra wrth wefan y clwb.

Mae sôn hefyd bod Caerdydd wedi gwneud cynnig o £3m am ymosodwr Bournemouth Lewis Grabban wrth iddyn nhw baratoi am dymor yn y Bencampwriaeth fydd yn dechrau fis Awst.

Daw hynny yn sgil ansicrwydd parhaol dros ddyfodol eu hymosodwyr presennol Frazier Campbell a Kenwyne Jones wedi i’r clwb ddisgyn o’r Uwch Gynghrair.