Mae’r Scarlets wedi arwyddo’u cyn-brop Peter Edwards ar gyfer y tymor nesaf wrth i’r rhanbarth gryfhau eu rheng flaen.
Bu Edwards yn chwarae ar Barc y Scarlets am dair blynedd cyn symud i Gymry Llundain y llynedd, ac mae’r prop pen tynn nawr 33 oed nawr yn dychwelyd i Gymru i ychwanegu profiad at y pac.
Yn ymuno â’r Scarlets yn llawn amser hefyd fydd y prop ifanc Wyn Jones, sydd wedi ymddangos ddwywaith iddyn nhw yng Nghwpan LV eleni.
Mae Jones, sy’n 22 oed, wedi bod yn chwarae i Lanymddyfri a nawr wedi cael cynnig cytundeb datblygu llawn â’r rhanbarth.
Ac mae’r rhanbarth hefyd wedi cadarnhau fod James Davies, y cefnwr ifanc sydd yn frawd i seren Cymru a’r Llewod Jonathan Davies, wedi ymestyn ei gytundeb ym Mharc y Scarlets.
Bu James Davies yn gapten ar dîm saith bob ochr Cymru eleni, ac er mai dim ond dwywaith y mae’r gŵr 23 oed wedi chwarae dros y Scarlets mae wedi’i enwi yng ngharfan y Possibles ar gyfer gêm dreial Cymru ar ddiwedd y mis.
“Mae dod a chwaraewyr ifanc i’r tîm cyntaf yn rhan o’n hethos ni yma yn y Scarlets i ddatblygu talent o fewn ein rhanbarth,” meddai’r prif hyfforddwr Simon Easterby.
“Mae James wedi dangos potensial yn barod ac wedi elwa o brofiad cynnar i heriau rygbi proffesiynol gyda thîm saith bob ochr Cymru.”
Dywedodd Easterby hefyd fod gan Wyn Jones ddyfodol disglair o’i flaen yn y gêm fel blaenwr.
“Mae Wyn wedi creu argraff arnom ni i gyd eleni,” meddai Easterby. “Mae ganddo lot o botensial a llawer o’r sgiliau naturiol angenrheidiol i ddod yn brop o’r safon uchaf yn y blynyddoedd i ddod.”