Nathan Redmond (llun: Will bcfc)
Bu tair gôl gan Nathan Redmond yn ddigon i guro tîm dan-21 Cymru wrth iddyn nhw golli 3-1 i Loegr ar noson wlyb iawn yn Stadiwm Liberty, Abertawe.
Rhwydodd Redmond ei gyntaf ar ôl deunaw munud ar ôl dwyn y meddiant yn hanner Cymru, cyn i Gwion Edwards unioni’r sgôr ddwy funud yn ddiweddarach.
Ond cafwyd dwy gôl arall gan Redmond yn yr ail hanner i sicrhau fod Cymru’n wynebu her enfawr wrth geisio cyrraedd y gemau ail gyfle Ewro 2015 bellach.
Mae’r canlyniad yn gadael Cymru’n drydydd yn y tabl, tri phwynt y tu ôl i Moldova, ac yn golygu fod yn rhaid iddynt ennill eu dwy gêm olaf a gobeithio bod Moldova’n colli pwyntiau os ydyn nhw am geisio cyrraedd y gemau ail gyfle.
Dechreuodd Lloegr yn gryfach ac ar ôl 18 munud roedden nhw ar y blaen, ar ôl i Lloyd Isgrove golli’r meddiant yn ei hanner ei hun cyn i Redmond redeg i mewn o’r ystlys a tharo’r bêl heibio i Connor Roberts ar y postyn agosaf.
Ond prin oedd dathliadau Lloegr wedi gorffen pan darodd Cymru yn ôl, Jack Butland yn arbed ergyd Wes Burns cyn i Gwion Edwards benio’r bêl i mewn o gic gornel Lee Evans a ddaeth o hynny.
Roedd hynny’n ddigon i gyffroi’r dorf, gydag Edwards wrth gwrs yn sgorio yn stadiwm ei glwb Abertawe.
Yna fe fethodd Lloyd Isgrove gyfle euraidd i Gymru gydag ond y golwr i’w guro, ond ceisiodd godi’r bêl heibio i Butland a methu.
Roedd Connor Roberts yn brysur yn y gôl i Gymru hefyd wrth arbed gan Danny Ings, Jesse Lingard a Luke Garbutt, cyn i Redmond roi Lloegr yn ôl ar y blaen ar ôl cael lle yn y cwrt cosbi.
Roedd Cymru wedi dod a’u tri eilydd ymlaen erbyn yr egwyl, ac yn yr ail hanner fe ddisgleiriodd un o’r rheiny, George Williams, gyda’i rediadau peryglus a achosodd nifer o broblemau i amddiffyn Lloegr.
Ond y Saeson ifanc gafodd y gorau o’r ail hanner ar y cyfan, gyda Redmond, Lingard a Saido Berahino’n methu cyfleoedd ac amddiffynwyr Cymru’n gorfod sefyll yn gadarn ar adegau.
Ond daeth trydydd Redmond ym munud olaf y gêm, wrth iddo daro ergyd o ymyl y cwrt cosbi’n syth i’r rhwyd a sicrhau buddugoliaeth o 3-1.
Mae dwy gêm olaf Cymru yn yr ymgyrch i ffwrdd o gartref ym mis Medi, yn erbyn y Ffindir a Lithwania.
Cymru dan-21
Tîm: Roberts, Freeman (Alfei 45’), John, Pritchard (O’Sullivan 42’), Ray, Walsh, Edwards, Lucas, Burns, Evans, Isgrove (Williams 40’)
Gôl: Edwards 20’
Lloegr dan-21
Tîm: Butland, Jenkinson, Garbutt, Ward-Prowse, Keane, Moore, Ince (Forster-Caskey 79’, Kane 85’), Chalobah, Ings (Berahino 56’), Lingard, Redmond
Goliau: Redmond 18’, 38’, 90’
Cardiau Melyn: Ward-Prowse, Chalobah