Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gobeithio ennill 27 medal yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow eleni.

Byddai hynny wyth yn well na’r 19 a enillwyd yn Delhi yn 2010.

Y dyhead hirdymor yw bod Cymru’n cyrraedd brig tabl medalau o’i gymharu â’r  boblogaeth.

Mae Chwaraeon Cymru’n anelu at ennill chwe medal nofio, pedai medal athletau, tair medal mewn seiclo a gymnasteg, dwy fedal mewn bocsio, saethu, chwaraeon anabledd a bowlio ac un fedal yn y treiathlon, codi pwysau a jiwdo.

‘Uchelgeisiol’

Dywedodd prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell, bod y nifer yn uchelgeisiol ac yn “adlewyrchu ein dyhead i fod yn genedl o bencampwyr”.

Ond, ychwanegodd na ddylai bod yn genedl fach fod yn esgus i Gymru wneud yn wael.

Meddai: “A dweud y gwir, mae’r ffaith ein bod ni’n wlad fach yn ein gyrru ymlaen at lwyddiant. Mae’n hathletwyr yn perthyn ar y podiwm. Rydym yn disgwyl ennill ac rydym yn disgwyl torri record neu ddau.”

Dywedodd cadeirydd Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister: “Yr hyn sy’n gwbl allweddol yw llwyddiant cynaliadwy, systematig. Mae medalau, wrth gwrs, yn bwysig, ond y systemau, strwythurau a’r gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llen yw’r pethau hanfodol.”