Parhau wnaeth tymor siomedig Siroedd Llai Cymru y penwythnos hwn, wedi iddyn nhw golli o 50 rhediad yn erbyn Dyfnaint ym Mrynbuga ddoe.

Penderfynodd y Cymry faesu wedi iddyn nhw ennill y dafl, ond cafodd y bowlwyr eu trechu gan fatiad o 109 gan James Burke oddi ar 114 o belenni.

Ychydig iawn o gyfraniadau eraill a gafwyd gan fatwyr yr ymwelwyr, ac fe lwyddodd Dewi Penrhyn Jones i gipio pedair wiced am 76 o rediadau yn ei ddeg pelawd, wedi’i gefnogi gan Richard Edwards a gipiodd 3-56.

Sgoriwr uchaf Siroedd Llai Cymru oedd Tom Baker (48) ond sicrhaodd bowlwyr Dyfnaint fod y Cymry’n cael eu cyfyngu i 224, sy’n golygu eu bod nhw allan o’r gystadleuaeth i bob pwrpas.

Bydd Siroedd Llai Cymru’n teithio i Swydd Wiltshire wythnos i heddiw ar gyfer eu gornest nesaf yn Warminster.