Mae BT Sport wedi arwyddo cytundeb newydd sbon gwerth miliynau o bunnau i noddi a hyrwyddo clybiau’r Scarlets, y Gweilch, y Gleision a Dreigiau Casnewydd am y tair blynedd nesaf.
Dyma’r cytundeb ar y cyd fwyaf yn hanes y rhanbarthau Cymreig sydd, yn ôl Cyfarwyddwr BT yng Nghymru, yn arwydd “cyffrous” o’r hyn sydd i ddod.
Fel rhan o’r cytundeb, bydd stadiwm y Gleision yn cael ei ail enwi fel Parc yr Arfau BT Sport.
Yn ogystal, bydd enw a logo BT yn ymddangos ar grysau cartref ac oddi cartref y Scarlets a’r Dreigiau, ac ar grysau cartref y Gweilch. Mae crysau oddi cartref y Gweilch yn cael eu noddi gan gwmni arall.
Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys nifer o gynlluniau datblygu cymunedol.
BT Sport yw noddwyr clybiau Caeredin a Glasgow yng nghynghrair y Pro12 ac fe fydd y cwmni yn cyd-ddarlledu’r Bencampwriaeth Rygbi Ewropeaidd ynghyd a Sky Sports.
Hyder
“Rydym yn parchu ac am gefnogi angerdd cymunedau Cymru sy’n deall eu rygbi, ac rydym yn cymeradwyo’r gwaith positif a blaengar sy’n cael ei wneud gan RRW a’r rhai sy’n goruchwylio’r gêm o fewn y pedwar rhanbarth yng Nghymru,” meddai cyfarwyddwr BT yng Nghymru, Ann Beynon.
Ychwanegodd pennaeth dros dro’r corff sy’n cynrychioli’r rhanbarthau, Regional Rugby Wales (RRW), Mark Davies ei bod hi’n “wych cael rhyw newyddion positif i rygbi rhanbarthol.”
“Mae hwn yn arwydd clir o’r hyder sydd yn rhanbarthau Cymru ac rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda BT – cwmni sy’n llwyddiannus yn fyd eang ac sydd wedi gweld gwerth mewn buddsoddi’n sylweddol yn ein busnesau rhanbarthol.”
“Mae’n amser i ddathlu’r camau mae rygbi Cymreig wedi ei gymryd i ddatblygu’r gêm.”
Mae’r pedwar rhanbarth yn creu trosiant o tua £30miliwn y flwyddyn, ac yn cyfrannu mwy na £50 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.